Covid-19: Tafarndai a bwytai yn y gogledd orllewin yn cau wedi cynnydd mewn achosion
Mae Newyddion S4C ar ddeall bod nifer o dafarndai a bwytai ar draws gogledd orllewin Cymru wedi gorfod cau oherwydd cynnydd mewn achosion o Covid-19.
Mae hyn yn cynnwys busnesau sydd â staff sydd wedi profi’n bositif am Covid-19, neu sydd yn gorfod hunan ynysu ar ôl bod mewn cyswllt agos ag unigolyn sydd wedi eu heintio.
Mae nifer o dafarndai a bwytai wedi gorfod cau yn ardal Abersoch ym Mhen Llŷn ac yn ardal Rhosneigr ar Ynys Môn yn ystod y dyddiau diwethaf, gydag aelodau staff unai wedi profi yn bositif am Covid-19 neu yn gorfod hunan ynysu.
Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd Cyngor Ynys Môn bod tîm Profi, Olrhain a Diogelu yn ymateb i glwstwr o achosion o Covid-19 yn ardal Rhosneigr.
Un tafarn sydd wedi penderfynu cau yw’r Glôb ym Mangor.
Yn ôl Gerallt Williams, sy’n rhedeg y dafarn, mae’r penderfyniad yn dod ar ôl i gwsmeriaid ac aelodau o staff brofi’n bositif am Covid-19 yn dilyn prysurdeb dros y penwythnos diwethaf.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Dwi’n cau’r dafarn achos mod i wedi sylweddoli fod [Covid-19] ar gynnydd, a dyma’n ffordd i o drio stopio fo mewn ffordd. Y peth lleia fedrai wneud. Yn enwedig gyda gêm mor fawr dydd Sadwrn, se hwne jysd yn cymhlethu pethau.”
Bydd Cymru yn herio Denmarc yn rownd yr 16 olaf ym mhencampwriaeth Euro 2020 ddydd Sadwrn.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Mr Williams: “Dwi’n deall y caiff nifer mawr ei siomi, a hithau’n benwythnos chwaraeon mor fawr ond dwi’n credu y cytunwch mai iechyd a diogelwch ein cymuned sydd flaenllaw.”