Newyddion S4C

Dathlu degawd o drawsnewid 'anialwch' i goetir 'hudol'

Newyddion S4C 14/04/2024

Dathlu degawd o drawsnewid 'anialwch' i goetir 'hudol'

Mae grŵp o wirfoddolwyr yng Ngheredigion yn dathlu 10 mlynedd ers iddyn nhw ddechrau gofalu am goetir cymunedol lleol. 

Roedd safle Coed y Bont ym Mhontrhydfendigaid yn cael ei ystyried yn “anialwch” cyn i’r gwirfoddolwyr ddechrau ar eu gwaith ym mis Ebrill 2014, ond bellach, mae’r coetir wedi ennill sawl gwobr gan ddenu cerddwyr o bob man i’r ardal. 

Mae’r coetir bellach yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru, a’r gwirfoddolwyr yn “falch iawn” o’r safle, meddai nhw wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C. 

“Mae’n lle arbennig a hudol gyda llawer o gynefin a llawer o fywyd gwyllt,” meddai’r gwirfoddolwr Chris Harris. 

“’Dyn ni’n falch iawn ohono fe. Ry'n ni wedi ennill pedwar o wobrau, gan gynnwys fod yn goetir cenedlaethol yn 2021.”

Image
Chris Harris

'Trawsnewid'

Mae rhwng 12 a 18 o wirfoddolwyr yn cwrdd unwaith y mis i wneud gwaith cynnal a chadw yng Nghoed y Bont, fel trwsio llwybrau neu docio canghennau. 

Ac mae’r safle wedi’i drawsnewid o’r hyn oedd e dros ddegawd yn ôl, meddai’r cynghorydd lleol Ifan Davies. 

“Wi’n cofio hwn deg mlynedd yn ôl a wir gerddech chi ddim trwyddo fe, roedd e mor wlyb. 

“Anialwch oedd e i ddweud y gwir, anialwch o goed ac ychydig iawn o fywyd gwyllt oedd ‘ma. 

“Os ydych chi’n dod yma nawr fyddwch chi’n clywed yr adar yn canu ac mae lawer fwy o fywyd gwyllt,” meddai. 

Image
Ifan Davies

'Lwcus'

Mae dwy ran i Goed y Bont – coetir hynafol ar fryn sy’n cynnwys hen goed derw a choed cyll, a safle gwastad lle mae llwybrau trwy’r coed, llyn a chuddfan a safle ‘ysgol goedwig’ ar gyfer plant lleol. 

Mae Ysgol Pontrhydfendigaid yn mynd i sesiynau ‘ysgol goedwig’ yno, gan alluogi iddyn nhw ddysgu sut i ddefnyddio offer garddio neu gynnau tan mewn amgylchedd diogel. 

Yn ferch ifanc sy’n mynychu’r sesiynau rheiny, dywedodd Lucy ei bod yn hoff iawn o fod yn agos i’r byd natur, tra bod “dringo coed” yw hoff beth Steffan sy’n 10 oed. 

“Mae fe’n arbennig achos mae’n dangos ni am y byd natur. Ac mae’n dangos ni am faint o coed ac aderyn sydd gyda ni,” meddai Lucy. 

Image
Lucy

Dywedodd Carys Davies, un o athrawon yr ysgol, fod y coetir yn rhoi cyfleoedd newydd i blant “na fyddech chi byth yn annog yn yr ysgol.” 

“Ni’n lwcus iawn i gael hyn ar ein stepen drws ni – mae fe yn rhoi profiad go iawn i’r plant o fod tu allan.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.