Dyn 18 oed o Abertawe'n pledio'n ddi-euog i rannu deunydd terfysgol
Mae dyn 18 o dde Cymru wedi pledio'n ddi-euog i rannu deunydd terfysgol.
Fe blediodd Alex Edwards, oedd yn cael ei adnabod yn flaenorol fel Alex Hutton, yn Llys y Goron Winchester dydd Gwener.
Mae wedi ei gyhuddo o rannu ffeil ddigidol gyda'r bwriad neu o fod yn ddi-hid i'r posibilrwydd y gallai'r wybodaeth annog eraill i baratoi gweithred derfysgol.
Plediodd y dyn ifanc o Dreforus yn euog mewn gwrandawiad blaenorol i ymosod ar ddynes ar 20 Mai 2023.
Roedd hefyd wedi pledio'n euog yn flaenorol i fod â llafn yn ei feddiant mewn man cyhoeddus a thorri gorchymyn ymddygiad troseddol oedd wedi ei osod arno ar 9 Medi 2021.
Mae'r drosedd terfysgaeth honedig yn ymwneud â fideo asgell dde eithafol a ddigwyddodd rhwng 24 Medi a 16 Tachwedd 2023.
Cafodd yr achos ei ohirio gan y Barnwr Christopher Parker KC tan yr achos llys mewn cyswllt â'r cyhuddiad terfysgol a chyhuddiad o ymosodiad corfforol bwriadol.
Fe fydd yr achos llys yn cael ei gynnal ar 2 Gorffennaf.