Joe Biden yn tanlinellu ymrwymiad ei wlad i Israel wedi bygythiadau o Iran
Mae'r Arlywydd Joe Biden o'r UDA wedi tanlinellu ymrwymiad ei wlad i Israel yn dilyn bygythiadau o ddial gan Iran ar y wlad.
Daw sylwadau Mr Biden wedi i Israel ymosod ar swyddfa gonswl Iran yn Syria'n gynharach yn y mis - sydd wedi ysgogi Iran i wneud y bygythiadau diweddaraf yn erbyn Israel.
Mewn cynhadledd i'r wasg yn Washington, dywedodd Mr Biden bod ymrwymiad ei wlad i ddiogelwch Israel yn wyneb y bygythiadau Iranaidd yn gwbl gadarn, ac y byddai'r UDA yn gwneud popeth o fewn ei gallu i amddiffyn diogelwch y wlad.
Daw ei sylwadau diweddaraf yn dilyn cyfnod go rewllyd yn y berthynas rhwng Washington a Jeriwsalem, wrth i'r UDA gynyddu'r pwysau ar Israel i dynnu'n ôl o'r ymosodiad ar Gaza, yn dilyn cyrch gwaedlyd Hamas ar Israel ym mis Hydref y llynedd.
Fe wnaeth ei sylwadau ddiwrnod ar ôl iddo alw am gadoediad yn Gaza a dweud ei fod yn anghytuno â strategaeth ryfel Benjamin Netanyahu.
Yn gynharach ddydd Mercher, dywedodd arweinydd Iran fod ymosodiad Israel yn Damascus yn cyfateb i ymosodiad ar Iran ei hun.
“Pan wnaethon nhw ymosod ar ein llysgenhadaeth, roedd fel eu bod nhw wedi ymosod ar ein tiriogaeth,” meddai Ayatollah Ali Khamenei mewn araith ar y teledu.
"Rhaid cosbi'r gyfundrefn ddrwg, ac fe fydd yn cael ei chosbi."
Bu farw 13 o bobl yn yr ymosodiad ar ddiwrnod cyntaf y mis hwn.
Nid yw Israel wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.