Llofruddiaeth George Floyd: Cyn-heddwas i gael ei ddedfrydu

Fe fydd y cyn-heddwas Derek Chauvin yn cael ei ddedfrydu yn ddiweddarach ddydd Gwener.
Cafwyd Chauvin, 45, yn euog fis Ebrill o lofruddiaeth a dynladdiad am bwyso ei ben-lin ar wddf Floyd am tua naw munud a 30 eiliad.
Dan ddeddfau Minnesota, fe fydd Chauvin yn cael ei ddedfrydu dan y cyhuddiad mwyaf difrifol, sy'n cario dedfryd o 40 mlynedd ar y mwyaf.
Mae disgwyl i Chauvin apelio, ynghyd â'r tri cyn-heddwas sydd yn dal i aros am eu treial taleithiol, yn ôl The Washington Post.
Darllenwch y stori'n llawn yma.