Pryder barnwr wedi i erlynwyr ollwng achos yn erbyn ffotograffydd
09/04/2024Pryder barnwr wedi i erlynwyr ollwng achos yn erbyn ffotograffydd
Mae Barnwr wedi dweud ei bod hi'n "bryderus" i achos gael ei ollwng yn erbyn ffotograffydd proffesiynol ddiwrnod cyn i'r gwrandawiad llys ddechrau.
Mae erlynwyr wedi gollwng yr achos yn erbyn Dimitris Legakis ar ôl iddo gael ei arestio fis Medi y llynedd tra'n gweithio ar stori a oedd newydd dorri.
Digwyddodd hynny yn ymyl safle llofruddiaeth ar Lôn Sgeti yn Abertawe.
Roedd y ffotograffydd wedi cael gwybod bod car ar dân yn ardal Sgeti Abertawe. Ond pan gyrhaeddodd y lleoliad yma, doedd rhai o'r bobl yno ddim yn hapus.
Recordiodd y digwyddiad ar gamera. Pan gyrhaeddodd yr heddlu, mae'n dweud iddyn nhw ymateb yn llawdrwm.
Cafodd ei arestio a'i gadw yn y ddalfa am 15 awr.
"Ges i galwad ffôn o ffrind fi am car ar dân yma. Driais i tynnu lluniau a wedyn dechreuodd merch gweiddi yn erbyn fi a dilyn fi a wedyn roedd pedair o pobol wedi pwsho fi," meddai wrth raglen Newyddion S4C.
"Wnaeth tri plismon gwthio fi ar y llawr."
Bron i saith mis yn ddiweddarach, clywodd Llys y Goron Abertawe nad oedd "tystiolaeth ddigonol" i'w gyhuddo.
Dywedodd y Barnwr Geraint Walters fod "rhywbeth mawr o'i le" wedi i'r erlyniad ollwng yr achos ddydd Llun.
Bellach, mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod ymchwiliad ar y gweill i sawl cwyn yn eu herbyn.
Mewn datganiad, dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron eu bod nhw'n "ystyried ymosodiadau ar weithwyr brys yn rhai difrifol iawn".
Wrth asesu tystiolaeth yr achos, fe ddywedodd y gwasanaeth nad oedd digon o dystiolaeth rhagor i barhau â'r erlyniad, gan gydnabod y dylai hynny fod wedi digwydd ynghynt.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw'n “nodi penderfyniad” Gwasanaeth Erlyn y Goron i beidio cynnig tystiolaeth yn yr achos yma, gan gadarnhau hefyd eu bod nhw'n ymchwilio i sawl cwyn yn erbyn y llu.
Fel ffotograffydd clwb pêl-droed Abertawe, a ffotograffydd newyddion, mae lluniau Dimitris Legakis yn rhai adnabyddus.
Mae'n dweud ei fod yn benderfynol o barhau â'i waith ffotograffiaeth, ond yn ystyried cwyno’n ffurfiol yn erbyn yr heddlu.
