Cwmnïau adeiladu dan bwysau wrth i’r prisiau a’r galw gynyddu
Gyda phobl wedi bod yn gwneud gwelliannau i’w cartrefi yn ystod y pandemig, mae’r diwydiant adeiladu wedi profi ffyniant rhyfeddol dros y misoedd diwethaf.
Ond, mae’r busnesau hyn yn ofni bod y cynnydd ym mhrisiau’r deunyddiau yn mynd i fwrw’r sector yn galed.
Mae Paul Pierce yn berchennog ar fusnes adeiladu yn Rhyl, lle mae’r galw am ddeunyddiau fel pren a dur wedi bod yn anferth. Fel sawl un arall, mae’n rhaid i Paul wneud archeb bedwar mis ymlaen llaw er mwyn gofalu bod ganddo stoc llawn.
Yn sgil y galw, mae’r prisiau wedi cynyddu, gyda rhai mathau o bren wedi codi 60% dros y naw mis diwethaf.
Gyda nifer o fusnesau adeiladu yn gosod pris sefydlog cyn dechrau’r gwaith, mae’r ffaith bod deunyddiau’n codi mewn pris yn codi pryder.
“Mae’r galw am fusnesau adeiladu yn hollol wallgof," meddai Paul.
“Ry’n ni’n gweithio rownd y cloc”.
“Mae’n beth ffantastig ond heriol i’r busnes ac i’r sector i gyd.”
Y diwydiant adeiladu yw’r pumed diwydiant mwyaf yng Nghymru, gyda dros 10% o weithlu’r wlad yn gweithio o fewn y sector.
Mae busnes Mike Garnett yn darparu gwaith ar gyfer adeiladu yn y sector gyhoeddus. Mae’n dweud bod prisiau wedi codi yn y gorffennol, ond dim i’r fath raddfa a hyn.
“Dwi wedi bod yn y diwydiant drwy gydol fy mywyd, ond mae’r prisiau uchel yr ydym yn gweld nawr yn ddi-gynsail,” dywedodd.
“Mae’n anodd i gynnal busnes fel hyn achos mae ein holl glientiaid yn gofyn am bris sefydlog. Mae’n amhosib cadw at y pris hwnnw.”
Yn ôl Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu, mae angen cynllunio ar gyfer y twf. Maen nhw'n rhagweld y bydd angen 9,000 yn rhagor o weithwyr adeiladu yng Nghymru erbyn 2025.
Er bod adferiad y diwydiant wedi hen ddechrau, mae arbenigwyr yn y sector yn ofni y bydd y prisiau yn parhau i gynyddu tan yr Hydref.