Newyddion S4C

‘Ysbrydoliaeth’: Tad ifanc sy’n colli ei olwg yn cynnig dihangfa ar y dŵr i eraill

07/04/2024

‘Ysbrydoliaeth’: Tad ifanc sy’n colli ei olwg yn cynnig dihangfa ar y dŵr i eraill

‘O’n i’n gwybod erioed y byddai’n digwydd, ond mae’n dal i fod yn dipyn o sioc,’ meddai dyn ifanc o Wynedd sy'n colli ei olwg.

Ers ei eni, mae Andrew Johnson, 33 oed o Ben Llŷn, yn byw gyda’r cyflwr genetig prin Retinal Dystrophy, sy’n achosi i’w olwg ddirywio dros amser. 

Mae’r cyflwr wedi bod yn sefydlog am y rhan fwyaf o’i fywyd, gan effeithio ar ei allu i weld yn y tywyllwch yn bennaf.

Ond dros y misoedd diwethaf, mae ei olwg wedi dirywio’n sydyn.

“O’r blaen, roedd gen i ychydig o tunnel vision ond o’n i’n gallu darllen yn iawn,” meddai Mr Johnson.

“Nawr, dwi’n cael trafferth darllen, felly dwi’n defnyddio apiau i fy helpu.

“Mae fy llygad dde wedi mynd yn blurry ond mae’n dal i adael golau i mewn - nid yw’n hollol ddu.” 

‘Bywyd ar chwâl’

Er bod Mr Johnson yn gwybod erioed y byddai ei olwg yn dirywio un diwrnod, mae’r diwrnod hwnnw wedi dod yn gynt na’r disgwyl.

Mae realiti’r sefyllfa wedi taro ef a’i wraig Danielle yn galed, yn enwedig a hwythau’n rhieni i ddau o blant ifanc.

“Mae ein bywyd teuluol ar chwâl ar hyn o bryd,” meddai Mr Johnson wrth Newyddion S4C, sydd nawr yn defnyddio ffon gerdded i fynd â'i feibion i'r ysgol.

Dywedodd Ms Johnson: “Nid yw’n mab tair oed yn deall yn iawn.

“Ond i’n mab saith oed… Dw i’n meddwl bod gweld Dad heb ffon, ac yna gweld Dad gyda ffon... Mae hynna wedi bod yn dipyn o sioc iddo.

“Da ni'n dod o hyd i ffyrdd newydd ac yn ceisio llywio ein ffordd drwyddo a dweud y gwir.”

Ar hyn o bryd nid oes iachâd ar gyfer y cyflwr, ac mae golwg Mr Johnson yn debygol o ddirywio eto.

Yn y gobaith o gael triniaeth i arafu’r dirywiad, mae’r cwpl yn bwriadu codi arian ar gyfer treialon clinigol yn America.

“Da ni'n gobeithio codi rhywfaint o arian ar gyfer treialon clinigol i geisio helpu,” medden nhw.

“Just rhywbeth i geisio sefydlogi’r un llygad, oherwydd bydd y llygad chwith yn dilyn y llygad dde yn y pen draw."

‘Ysbrydoliaeth’

Yn berchnogion y busnes chwaraeon dŵr Hydro Abersoch, mae Mr a Ms Johnson yn dweud bod cael mynd allan ar y môr yn bwysig i’w hiechyd meddwl.

Ac mae’r cwpl nawr yn gobeithio sefydlu clwb rhad ac am ddim i roi cyfle i bobl eraill â nam golwg gael dod i'r arfordir i wneud yr un peth.

“Roedden ni’n meddwl y bydden ni’n sefydlu clwb caiac a bwrdd padlo pan mae’n ychydig yn gynhesach,” meddai Mr Johnson.

“'Da ni hefyd eisiau rhoi’r cyfle i bobl gael profi cychod pŵer hefyd - mae pobl yn meddwl ein bod ni'n wallgof! 

“Ond mae wir wedi fy helpu i gyda fy iechyd meddwl, gallu mynd allan ar y dŵr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.