Deiniolen: Carcharu dyn am dagu ei bartner a’i bwrw gyda photel
Mae dyn wedi ei garcharu am dagu ei bartner yn fwriadol mewn ymosodiad yn Neiniolen yng Ngwynedd.
Cafodd Luke Richard Roberts sy’n 34 oed, o Stryd yr Eglwys Niwbwrch, ei garcharu am ddwy flynedd a chwe mis yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mercher.
Roedd wedi bwrw ei bartner gyda photel a’i thagu nes ei bod yn anymwybodol yn yr ymosodiad ar Awst 22 y llynedd.
Fel rhan o'r ddedfryd mae hefyd wedi cael rhybudd ataliol i beidio â mynd i Ddeiniolen na chysylltu â neu fynd ar gyfyl ei ddioddefwr.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Saran Henderson: “Ni fyddwn yn goddef ymddygiad treisgar ac anfaddeuol tuag at fenywod.
“Rwy’n canmol dewrder y dioddefwr am gynorthwyo gyda’r ymchwiliad hwn.
“Nid yw’n hawdd codi llais yn dilyn digwyddiadau domestig, ond byddwn yn sicrhau unrhyw un y byddwn bob amser yn gwneud ein gorau glas i ymchwilio’n llawn i unrhyw adroddiad a dod â throseddwyr o flaen eu gwell.”