Newyddion S4C

Rhagor o streiciau i effeithio ar deithwyr trên yng Nghymru

04/04/2024
tren avanti

Mae teithwyr ar y rheilffyrdd yng Nghymru yn wynebu rhagor o oedi wrth i aelodau undeb gweithwyr trenau Aslef streicio unwaith eto.

O ddydd Iau nes dydd Sadwrn ac am 48 awr o ddydd Llun bydd gyrwyr trenau yn gwrthod gweithio dros eu horiau gan barhau’r anghydfod 12 mis dros swyddi ac amodau gweithio.

Bydd hefyd streic ddydd Gwener ar Avanti West Coast, sy’n gwasanaethu gogledd Cymru, a dydd Sadwrn ar Great Western Railway, sy’n darparu gwasanaethau yn y de.

Rhybuddiodd gweithredwyr trenau ei bod yn debygol ar ddiwrnodau streic na fydd fawr ddim gwasanaethau, os o gwbl, yn rhedeg ar draws rhannau helaeth o'r rhwydwaith.

Bydd streic ddydd Gwener hefyd yn effeithio ar wasanaethau CrossCountry, East Midlands Railway, West Midlands a London Northwestern.

Ddydd Sadwrn bydd gyrwyr trenau hefyd yn streicio ar Chiltern Railways, Heathrow Express, Northern a’r TransPennine Express.

Fe fydd streic ddydd Llun yn effeithio ar c2c, Gatwick Express, Greater Anglia (gan gynnwys Stansted Express), Great Northern, Southeastern, Southern, South Western Railway (gan gynnwys yr Island Line) a Thameslink.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Aslef, Mick Whelan, fod yr undeb wedi galw am drafodaethau ac nad yw gyrwyr trenau wedi cael cynnydd mewn cyflog ers 2019.

“Mae gyrwyr trenau wedi pleidleisio, dro ar ôl tro, i weithredu er mwyn ceisio codiad cyflog,” meddai.

“Ni fyddai gyrwyr yn pleidleisio dros weithredu diwydiannol, dro ar ôl tro ac eto, pe baent yn meddwl eu bod nhw wedi cael cynnig gwerth chweil.”

‘Targedu’

Dywedodd llefarydd ar ran y Rail Delivery Group sy’n cynrychioli cwmnïoedd y rheilffyrdd eu bod nhw’n ymddiheuro am yr oedi pellach ar eu gwasanaethau.

“Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid yn y diwydiant i gadw cymaint o drenau i redeg â phosibl,” medden nhw.

“Ein cyngor yw gwirio cyn eich bod yn teithio a dilyn y wybodaeth deithio ddiweddaraf.”

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Drafnidiaeth: “Aslef yw’r unig undeb rheilffordd sy’n parhau i streicio, gan dargedu teithwyr ac atal eu haelodau eu hunain rhag pleidleisio ar y cynnig cyflog sydd wedi ei gynnig.

“Ar ôl datrys anghydfodau gyda’r holl undebau rheilffyrdd eraill, mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth a’r gweinidog rheilffyrdd wedi sicrhau bod cynnig cyflog ar y bwrdd – gan fynd â chyflogau cyfartalog gyrwyr trenau o £60,000 i hyd at £65,000.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.