Newyddion S4C

Pobl ifanc sy’n treulio mwy o amser ar y cyfryngau cymdeithasol yn fwy tebygol o fêpio - ymchwil

04/04/2024
Fepio

Mae pobl ifanc yn eu harddegau sy’n treulio llawer o amser ar y cyfryngau cymdeithasol yn fwy tebygol o ysmygu neu fêpio, yn ôl ymchwil newydd.

Roedd y bobl ifanc fu'n rhan o'r astudiaeth, a oedd yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol am fwy na dwy awr y dydd, tair gwaith yn fwy tebygol o ysmygu neu fêpio na'r rheini oedd yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol am lai nag awr a 30 munud y diwrnod.

Roedd yr academyddion o Brifysgol Glasgow wedi cynnwys 8,987 o bobl ifanc yn eu harddegau fel rhan o’r ymchwil.

Roedden nhw’n edrych ar sut oedd defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn 14 oed yn dylanwadu ar arferion pobl wrth ddefnyddio nicotin yn 17 oed.

Mae’r ymchwilwyr wedi galw am hybu arferion ar-lein iachach ar gyfer pobl ifanc, ond fe ddywedon nhw nad fyddai gwaharddiadau yn gweithio.

Dywedodd prif awdur yr ymchwil, Amrit Kaur Purba: “Mae ein canfyddiadau’n dadlau dros reoleiddio cynnwys peryglus ar gyfryngau cymdeithasol.

“Mae angen i ni fodelu arferion iach ar-lein, yn lle troi at waharddiadau cyffredinol a goramddiffyn, i helpu pobl ifanc i lywio’r byd digidol.”

Gwahardd

Daw’r ymchwil wedi cyhoeddi canfyddiadau astudiaeth arall ddoe a oedd yn awgrymu bod fêpio yn gallu cynyddu’r risg o fethiant y galon “yn sylweddol”.

Fis diwethaf, cyflwynodd Llywodraeth y DU ddeddfwriaeth gyda’r nod o ffrwyno ysmygu e-sigaréts ymhlith pobl ifanc gyda’r Bil Tybaco a Fêps.

Y nod yw cyfyngu ar flasau anwedd a phecynnu sy’n cael ei farchnata’n fwriadol i blant.

Maen nhw hefyd am wahardd fêps tafladwy o fis Ebrill 2025 ymlaen o dan gyfreithiau amgylcheddol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.