Dros 1,000 o bobl bellach wedi eu hanafu ar ôl daeargryn yn Taiwan
Dros 1,000 o bobl bellach wedi eu hanafu ar ôl daeargryn yn Taiwan
Mae'r daeargryn cryfaf i daro Taiwan ers 25 mlynedd bellach wedi lladd naw ac anafu dros 1,000 o bobl.
Fe wnaeth y daeargryn, a oedd yn mesur 7.4 ar y raddfa Richter, daro yn agos at Hualien tua 07:58 ddydd Mercher, dinas sy’n boblogaidd gyda thwristiaid ar arfordir dwyreiniol Taiwan.
Yn ôl diweddariad gan asiantaeth tân y wlad, mae naw o bobl wedi eu lladd a 1,038 wedi eu hanafu.
Mae 52 o bobl hefyd yn parhau i fod ar goll, gan gynnwys grŵp o 38 o weithwyr a oedd ar eu ffordd i barc gwyliau ym Mharc Cenedlaethol Taroko.
Roedd tua 25 o dwristiaid hefyd yn gaeth yn y parc, meddai asiantaeth newyddion y wladwriaeth.
Bu farw pedwar ohonynt oherwydd creigiau'n cwympo, meddai.
'Ansefydlog'
Mae hofrenyddion a dronau bellach wedi cael eu defnyddio i chwilio am bobl sy'n gaeth.
Roedd fideos ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos plant yn cael eu hachub o adeiladau preswyl a oedd wedi dymchwel.
Mae un adeilad pum llawr yn Hualien wedi dymchwel, gyda rhan o'r adeilad yn pwyso ar ongl 45 gradd.
Dywedodd swyddog o’r adran dân leol, Su Ching-hui, wrth asiantaeth newyddion Reuters bod achubwyr yn wynebu anawsterau mawr.
“Pryd bynnag mae ein tîm yn symud, mae’r adeilad yn mynd yn ansefydlog ac mae’n rhaid iddyn nhw ddod o hyd i rywbeth i’w gadw yn ei le er mwyn sicrhau eu diogelwch cyn tynnu pobol allan," meddai.
Ymhellach i'r gogledd, llithrodd rhan o bentir Ynys Guishan, atyniad i dwristiaid a elwir hefyd yn Ynys y Crwbanod, i'r môr.
Yn y brifddinas, Taipei, cafodd nifer o bobl eu hachub o adeilad a oedd wedi dymchwel yn rhannol, a disgynnodd teils o adeiladau.