Newyddion S4C

Israel yn gwadu eu bod nhw wedi targedu gweithwyr dyngarol yn fwriadol

04/04/2024
gweithwyr dyngarol Gaza.png

Mae Israel wedi gwadu eu bod nhw wedi targedu gweithwyr dyngarol yn fwriadol mewn ymosodiad yn Gaza.

Bydd Joe Biden yn trafod marwolaeth y saith o weithwyr World Central Kitchen gyda Phrif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu ddydd Iau.

Mae pennaeth yr elusen, José Andrés, wedi cyhuddo Israel o dargedu eu staff yn fwriadol, “car wrth gar”.

Dywedodd yr elusen bod bwlch o tua 1.5 milltir rhwng bob car pan ddigwyddodd yr ymosodiad. 

Fe gawson nhw eu taro ar ôl gadael warws yn Deir al-Balah ar ôl dadlwytho dros 100 tunnell o gymorth dyngarol ar gyfer pobl Gaza.

Roedden nhw'n cynnwys tri o Brydain - John Chapman, James Henderson a James Kirby (uchod).

Ond dywedodd Nir Barkat, aelod o gabinet rhyfel Israel, mai “nonsens” oedd dweud eu bod nhw wedi eu targedu yn fwriadol, gan ddisgrifio'r marwolaethau fel “camgymeriad trasig”.

“Mewn rhyfel mae camgymeriadau ofnadwy yn digwydd,” meddai gan ddweud ei fod yn “flin iawn” gan Israel am yr hyn ddigwyddodd.

“Gyda phob parch does dim ffordd yn y byd y byddai Israel yn targedu pobl sy’n dod i roi cymorth i bobl,” meddai.

Roedd hynny’n groes i Hamas meddai a oedd wedi targedu dinasyddion cyffredin yn fwriadol yn eu hymosodiad ar 7 Hydref a arweiniodd at ymateb milwrol Israel.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.