Newyddion S4C

Y bardd John Hywyn wedi marw

02/04/2024
John Hywyn

Bu farw’r bardd John Hywyn yn 76 oed.

Gyda'i wreiddiau yn Aberdaron, bu’n brifathro ar Ysgol Brynaerau yn Nyffryn Nantlle am nifer o flynyddoedd, gan ymgartrefu yn ardal Llandwrog ger Caernarfon.

Roedd yn fab i ficer, Y Parchedig Emrys Edwards, a enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Maelor yn 1961, ac fe enillodd John Hywyn ei hun Gadair Eisteddfod yr Urdd Llanrwst yn 1968.

Roedd hyn mewn cyfnod pan oedd cystadlu brwd rhwng rhai o feirdd mawr y cyfnod, gan gynnwys Gerallt Lloyd Owen a Dic Jones.

Roedd John Hywyn hefyd yn enillydd coron Eisteddfod Môn yn 1974, ac yn aelod amlwg o dîm Caernarfon yn Ymryson y Beirdd yn y Babell Lên, Yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn.

Daeth tro ar fyd i’r teulu ar ddechrau’r 90au, pan fu farw ei wraig, yr awdures Gwenno Hywyn, yn 1991.

Roedd hefyd yn fardd llwyddiannus mewn nifer o eisteddfodau lleol ar draws Cymru, ac yn cael ei ystyried yn feirniad llenyddol poblogaidd a chraff, gyda hiwmor unigryw.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.