Degau wedi marw ar ôl tân mewn clwb nos yn Nhwrci
02/04/2024
Mae o leiaf 29 o bobl wedi cael eu lladd ar ol i dân gynnau mewn clwb nos yn Nhwrci.
Roedd y clwb o dan ddaear, ar lawr isaf adeilad tal yn Istanbul, ac roedd ar gau ar y pryd wrth i waith adnewyddu gael ei gynnal yno yn ystod y dydd.
Dywedodd llywodraethwr Istanbul, Davut Gül nad oedd hi'n glir sut y cynheuodd y tân.
Ychwanegodd fod y rhai sydd wedi marw yn 'weithwyr', ond dyw hi ddim yn glir ai contractwyr neu weithwyr y clwb nos oedden nhw.
Mae'r awdurdodau yn parhau â'u hymchwiliad.
Llun: Wochit.