Newyddion S4C

Gwahardd hysbysebion Nationwide am 'gamarwain'

03/04/2024
Dominic West

Mae hysbysebion gan gymdeithas adeiladu Nationwide wedi eu gwahardd gan gorff hysbysebu am “gamarwain” cwsmeriaid i feddwl nad yw’r sefydliad am gau eu canghennau, o gymharu â banciau eraill. 

Mae’r actor Dominic West, sy’n adnabyddus am ei rôl fel Brenin Charles yng nghyfres The Crown, yn serennu yn yr hysbysebion.

Mae'n chwarae rôl fel pennaeth banc arall, ag yntau’n trafod dyfodol ei fanc ffuglen.

Ond mae’r Awdurdod Safonau Hysbysebu bellach wedi gwahardd yr hysbysebion teledu, radio, yn ogystal â datganiadau i’r wasg – a hynny’n dilyn 282 o gwynion. 

Roedd banc Santander yn un o’r rhai wnaeth gwyno am yr hysbysebion. Roedden nhw ar ddeall fod Nationwide wedi cau sawl cangen yn ddiweddar, neu wedi lleihau’r nifer o oriau mae’r canghenni ar agor i gwsmeriaid. 

Fe ddaeth yr hysbysebion fel rhan o ‘addewid’ Nationwide yn 2019 i beidio â chau cangen pe bai’n golygu y byddai tref neu ddinas heb unrhyw gangen. Yn 2023, dywedodd Nationwide na fyddan nhw’n cau unrhyw gangen tan 2026, o leiaf. 

Ond wrth siarad â’r awdurdod hysbysebu, dywedodd Nationwide eu bod wedi cau 20 cangen yn yr 18 mis diwethaf, gan gynnwys dwy yn 2023. 

Ychwanegodd Nationwide taw nhw oedd y banc efo’r nifer fwyaf o ganghenni allan o 10 o fanciau eraill. 

Ond wrth ymateb, dywedodd Awdurdod Safonau Hysbysebu nad oedd hysbysebion Nationwide yn ddigon eglur. Fe ddywedon nhw y byddai cwsmeriaid yn camddeall bod eu ‘haddewid’ ddim ond yn para hyd at 2026. 

Dywedodd: “Fe ddywedon ni wrth Nationwide Building Society i beidio â chamarwain cwsmeriaid mewn perthynas â chau eu canghennau.”

Dywedodd llefarydd ar ran Nationwide: “Rydyn ni’n cydnabod penderfyniad yr Awdurdod Safonau Hysbysebu ac rydyn ni’n wrth ein boddau i egluro ein haddewid, sydd bellach wedi’i ymestyn, gan olygu rydyn ni am gadw pob cangen ar agor tan ddechrau 2028."

Llun: Advertising Standards Authority/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.