Teyrngedau i fachgen 'hyfryd' a fu farw mewn damwain ar ei feic fferm
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i fachgen 16 oed a fu farw mewn damwain tra roedd ar ei feic fferm.
Gwyrodd beic Hector Eccles oddi ar y ffordd a glanio mewn car yn Worsthorne, Sir Gaerhirfryn tua hanner nos, nos Sadwrn.
Chafodd teithiwr ar y beic - llanc 17 oed - ddim anafiadau difrifol, yn ôl yr heddlu.
Mewn teyrnged, mae teulu Hector wedi diolch i bawb sydd wedi cysylltu â nhw yn cydymdeimlo, ac wedi cyhoeddi llun ohono ar ei fferm.
“Dyma ein Hector ar ei fferm gyda'i anifeiliad, lle roedd wrth ei fodd” meddai'r datganiad.
Roedd yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Pendle. A dywedodd ei deulu ei fod hapusaf ar y fferm neu gyda'i ffrindiau yn y clwb ffermwyr ifanc.
“Bydd Hector wastad yn ein meddyliau, a byddwn wastad yn cofio ein bachgen caredig a hyfryd,” meddai'r teulu.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Clwb Ffermwyr Ifanc Pendle y bydd pawb yn hiraethu am Hector.
“Mae pawb wedi torri'u calonnau wrth glywed ein bod wedi colli ein cyd ffermwr ifanc,” dywedodd y clwb.
“Roedd Hector yn aelod brwd a oedd yn bresennol ym mhob cyfarfod ac yn cystadlu ar lefel rhanbarthol a chenedlaethol.
“Wnawn ni fyth dy anghofio.”