Newyddion S4C

'Gwrthryfela' yn debygol oherwydd cynlluniau digartrefedd Llywodraeth y DU

01/04/2024
S4C

Gallai nifer fawr o aelodau seneddol Ceidwadol wrthryfela yn erbyn cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer pobl sy'n cysgu ar strydoedd, yn ôl adroddiadau.     

O dan y cynllun yn y Bil  Cyfiawnder Troseddol, byddai modd i'r heddlu roi dirwy neu symud bobl sy'n "achosi poendod" tra'n cysgu ar strydoedd.  

Mae disgwyl i fwy na 40 o aelodau seneddol Ceidwadol wrthryfela yn erbyn hynny.  

Yn ôl y Times, mae ffynonellau ar ran y Llywodraeth wedi dweud bod "seibiant" ar hyn o bryd, wrth i weinidogion drafod ag aelodau seneddol sydd â phryderon am y cynlluniau.  

Mae'r cyn weinidogion Ceidwadol, Syr Iain Duncan Smith a Damian Green ymhlith y rhai sydd wedi arwyddo cyfres o welliannau i'r bil.   

Cafodd y bill ei gyflwyno i'r Senedd gan Suella Braverman, pan roedd hi'n Ysgrifennydd Cartref. 

Ar y pryd disgrifiodd gysgu ar y strydoedd fel 'ffordd o fyw dewisol."     

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi apelio ar Lywodraeth y DU i wrando  ar aelodau'r meinciau cefn sy'n anhapus. 

Ac mae Matt Downie, prif weithredwr yr elusen ar gyfer y di gartref Crisis, wedi galw ar yr Ysgrifennydd Cartref James Cleverly i roi'r gorau i'r “mesurau creulon a di angen, gan ganolbwyntio ar atebion go iawn," fel adeiladu mwy o dai fforddiadwy.    

Yn ôl y Gweinidog Busnes Kevin Hollinrake, mae'r argymhellion yn un rhan yn unig o strategaeth llawer ehangach gan y llywodraeth er mwyn sicrhau fod bobl yn medru cael to uwch eu pennau.


 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.