Protest Palesteina: Dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o gyflawni trosedd derfysgaeth
30/03/2024
Mae dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o drosedd yn ymwneud â therfysgaeth, yn ystod protest yng nghanol Llundain dros hawliau Palesteiniaid.
Roedd tua 200,000 yn bresennol yn yr orymdaith trwy ganol Llundain ac yn galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza.
Ymhlith y siaradwyr yn y brotest, roedd y cyn arweinydd Llafur Jeremy Corbyn.
Yn ôl yr heddlu, cafodd y dyn ei arestio gan blismyn yn y Strand, mewn cyswllt â "gwahodd cefnogaeth i sefydliad sydd wedi ei wahardd."
Cafodd y dyn ei gludo i orsaf yr heddlu yng nghanol Llundain ac mae'n dal i fod yn y ddalfa.