Cyn-fyfyriwr Coleg Meirion-Dwyfor yn llywydd newydd ar undeb myfyrwyr
Cyn-fyfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor fydd Llywydd newydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru.
Cyhoeddwyd mai Deio Owen fydd y Llywydd newydd yng nghynhadledd flynyddol yr undeb yn Aberystwyth.
Fe fydd yn dechrau ei dymor yr haf hwn, a dywedodd y bydd yn gweithio i sicrhau bod myfyrwyr yn “cael y fargen orau posib”.
Astudiodd Deio, o Abererch ger Pwllheli, ei bynciau Lefel A ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli a gwasanaethodd hefyd fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr i'r coleg.
Graddiodd o Brifysgol Caerdydd y llynedd gyda Gradd yn y Gymraeg a Gwleidyddiaeth.
Yn ddiweddar, fe’i penodwyd yn Is-Lywydd Iaith Diwylliant a Chymuned Cymru ar gyfer Undeb Myfyrwyr Caerdydd.
Ar ôl cael ei ethol yn Llywydd UCM Cymru, dywedodd Deio: “Dw i'n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau fy rôl newydd fel Llywydd UCM Cymru ym mis Gorffennaf.
“Ar ôl bod yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr yn y coleg a bellach yn gweithio fel swyddog llawn amser yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd, dw i’n gobeithio gwneud y mwyaf o fy mhrofiad mewn addysg bellach ac uwch.
“Rydyn ni ar drobwynt yn y sector addysg ôl-16 yng Nghymru, a dw i’n edrych ymlaen at sicrhau bod myfyrwyr ac undebau myfyrwyr yn cael y fargen orau posib.”