Newyddion S4C

Galw am fwy o gymorth iechyd meddwl yn y Gymraeg

28/03/2024

Galw am fwy o gymorth iechyd meddwl yn y Gymraeg

"O'n i ym Mlwyddyn 11 yn yr ysgol. Oedd hi adeg anodd. O'n i'n astudio TGAU, oedd lot o bwysau."

Mae Elen wedi bod yn byw efo problemau iechyd meddwl ers ei harddegau.

"Pan o'n i'n 16 a'r teimladau yn digwydd o'dd o'n eithaf confusing. Dw i'n falch rwan o allu deud fy mod i wedi dechrau dysgu sut i ymdopi efo'r peth. Mae bellach yn saith mlynedd sy'n lot o amser. Mae 'di rhoi amser i fi allu deall fy nheimladau a deall beth sy'n helpu fi yn bersonol."

Siarad, ymarfer corff a meddyginiaeth. Rhai o'r pethau sydd wedi helpu Elen dros y blynyddoedd. Er hyn, mae'n rhwystredig nad ydy hi wedi cael dewis i gael cymorth yn y Gymraeg.

"Oedd y rhestr aros mor hir yn y brifysgol. Yn bennaf ro'n i isio cymorth trwy'r Gymraeg. Oedd y brifysgol ddim yn cynnig y cymorth yna. Dim ond sesiynau Saesneg oedd ar gael. Roedd hynny'n rhwystredig i fi."

Ar ôl gwneud cais rhyddid gwybodaeth i'r saith bwrdd iechyd i weld faint o gwnselwyr sy'n cynnig gwasanaeth yn y Gymraeg gyda'r sgiliau'n amrywio o sylfaenol i rugl, mae'r ffigurau'n dangos mai dim ond un sydd ym mwrdd iechyd y gogledd dau ym mwrdd iechyd Abertawe a phedwar ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan.

Ychydig mwy wedyn ym mwrdd iechyd Hywel Dda Powys a Chwm Taf Morgannwg a dim o gwbl yng Nghaerdydd a'r Fro. I un sydd wedi bod yn gweithio'n y maes ers 15 mlynedd, mae rhai'n ei chael hi'n haws rhannu teimladau yn eu hiaith gyntaf.

"Mae gynno fi gleientiaid yn Llundain. Dw i'n gweithio efo cleientiaid ledled Cymru sy'n stryglo i ffeindio cwnselwyr Cymraeg. Wedi trio rhai Saesneg, wrth reswm, yn eu hardaloedd ond heb ffeindio bod nhw'n gallu bod yn vulnerable. 'Dyn nhw'm yn gallu rhannu be 'san nhw'n licio ella yn yr ail iaith."

Yn ddiweddar lansiodd Mind Cymru ymgyrch newydd i dynnu sylw at y gefnogaeth maen nhw'n ei gynnig yn y Gymraeg.

O'r 500,000 o bobl aeth ati i chwilio am gymorth ar-lein gan yr elusen llynedd roedd 1 o bob 10 o'r rheiny'n gofyn am gymorth yn y Gymraeg.

"Ni ddim yn credu dylai unrhyw un wynebu rhwystrau i'r cymorth sydd ei angen yn enwedig o ran iechyd meddwl. Mae'n gallu bod yn anodd anyway i ddechrau siarad am deimladau a deall beth sy'n digwydd trio prosesu'r hyn chi'n mynd trwyddo."

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae unigolion ar eu mwyaf bregus wrth gael cymorth iechyd meddwl ac felly mae'n hanfodol iddyn nhw allu siarad yn eu hiaith eu hunain bryd hynny.

Dywedon nhw hefyd eu bod yn gweithio tuag at eu nod pum mlynedd o gryfhau gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

I Elen, fel nifer, dydy siarad am deimladau diarth ddim yn hawdd.

Mae mynnu bod angen cael y dewis i wneud hynny yn eich mamiaith yn bwysicach nac erioed.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.