Seren Gogglebox, George Gilbey, wedi marw ar ôl disgyn o uchder
Mae cyn-seren y gyfres Gogglebox, George Gilbey, wedi marw ar ôl disgyn o uchder yn ei waith.
Cafodd Heddlu Essex ac Ambiwlans Awyr eu galw i Shoebury, ger Southend-on-Sea, wedi adroddiadau bod dyn wedi disgyn o uchder.
Roedd y gŵr 40 oed wedi marw yn y fan a’r lle.
Roedd Mr Gilbey wedi bod yn rhan o wyth cyfres o Gogglebox ar Channel 4 rhwng 2013 a 2018.
Roedd hefyd wedi ymddangos yng nghyfres Celebrity Big Brother ar Channel 5 yn 2014, gan orffen yn bedwerydd.
Mewn neges ar gyfrwng cymdeithasol X gan gyfrif C4 Gogglebox, fe wnaeth criw’r gyfres roi teyrnged iddo:
“Roedd George yn rhan o deulu Gogglebox am wyth mlynedd ynghyd â’i fam Linda a’i lystad Pete.
“Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad dwysaf gyda Linda, a theulu a ffrindiau George, yn ystod y cyfnod hynod drist hwn.”
Bu farw ei lystad, Peter McGarry, yn 2012, yn 71 oed.
Llun: PA