Newyddion S4C

Y chwech o bobl sydd ar goll ar ôl i bont Baltimore ddymchwel 'wedi marw'

27/03/2024
Pont

Mae'r gwasanaethau brys yn credu bod y chwech o bobl sydd ar goll wedi i bont ddymchwel yn Baltimore yn America 'wedi marw'.

Roedd y gwasanaethau brys yn chwilio am bobl yn y dŵr yn Baltimore, yn nhalaith Maryland ar ôl i bont Francis Scott Key gael ei tharo gan long nwyddau tua 01:30 fore Mawrth.

Ond mae Gwylwyr y Glannau America wedi rhoi gorau i'w hymdrechion chwilio ac achub, a bellach wedi dechrau ceisio dod o hyd i gyrff.

Mae pryderon hefyd wedi eu codi am aflonyddwch sylweddol i gadwyni cyflenwi byd-eang yn sgil y digwyddiad.

Roedd y bont yn fynedfa i Borthladd Baltimore, sef y porthladd prysuraf yn America ar gyfer allforio ceir, a'r nawfed porthladd prysuraf yn gyffredinol yn y wlad.

Y gred yw bod y chwech o bobl ar goll wedi bod yn gweithio fel gweithwyr adeiladu ar y bont yn trwsio tyllau yn y ffyrdd.

Roedd wyth o bobl ar goll yn wreiddiol, ond fe gafodd dau ohonynt eu hachub o'r dŵr, gydag un mewn cyflwr difrifol.

Dywedodd Arlywydd America Joe Biden y bydd yn ymweld â Baltimore "cyn gynted â phosib".

Ychwanegodd hefyd y byddai'r llywodraeth ffederal yn talu am "holl gostau" ail-adeiladu'r bont.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.