Newyddion S4C

Pryderon ffermwyr wrth i ymosodiadau cŵn ar dda byw cynyddu

26/03/2024

Pryderon ffermwyr wrth i ymosodiadau cŵn ar dda byw cynyddu

Felly ewch a ni nôl, Wyn.

"O'n i'n sefyll fan hyn yn gweld y cŵn yn chasio'r defaid a gweld y peth erchyll yn mynd o flaen fy llygaid."

A chithau'n methu gwneud dim ar y pryd.

"Dim byd ar y pryd."

Atgofion Wyn Evans o ymosodiad gan ddau gi ar ei braidd ychydig flynyddoedd yn ôl.

"O'n nhw dal yn hanner byw yn y tywyllwch."

Fe ddaeth rhaglen Ffermio i ffilmio canlyniad yr ymosodiad.

"Gadodd y cŵn y defaid yma."

Bu farw 15 o ddefaid, rhai wedi'u rhwygo i farwolaeth.

Mae pedair dafad yn gofal dwys. Diflastod y sefyllfa i Wyn yw bod yr achosion nid yn unig yn parhau ond yn cynyddu yma yng Nghymru.

"Mae achos wedi digwydd dair milltir i ffwrdd yn Llanilar. "

Wythnos diwethaf. Aeth cŵn mewn i ganol defaid ac wyn.

"Mae'n hanfodol o bwysig bod pobl yn parchu anifeiliaid cefn gwlad ac i barchu pobl sy'n gweithio yng nghefn gwlad.

"O brofiad, 'sdim byd waeth na gweld defaid diniwed yn cael eu ymosod gyda cŵn, mae'n beth ofnadwy."

Yn ôl gwaith ymchwil gan NFU Mutual mae 68% o berchnogion yn caniatau i'w cŵn grwydro yn y wlad heb dennyn.

Mae llai na hanner yn dweud bod nhw'n llwyddo ar bob achlysur i'w galw nhw nôl.

A hynny'n arwain weithiau at ganlyniadau trychinebus.

Y pryder i Wyn a'i debyg a hithau'n gyfnod wyna yw bod yr anifeiliaid diniwed yma'n darged hawdd i gŵn gyda mwy na'r arfer hefyd am fod yn crwydro gyda'u perchnogion dros gyfnod y gwyliau.

"Mae Aberystwyth yn agos i gefn gwlad.

"Mae'n neis i bobl cerdded eu cŵn yng nghefn gwlad."

Ac mae'r gost i'r diwydiant yn achos pryder hefyd gyda swm y colledion wedi dyblu y llynedd o gymharu â'r flwyddyn gynt.

"£883,000 oedd cyfanswm yr hawliadau gaethon ni yng Nghymru.

"Beth sy'n taro ni yw bod y cyfanswm yn codi yn ogystal â'r achosion.

"Allan o £2.4 miliwn dros Brydain, mae'r ffigwr yn uchel yng Nghymru."

I Wyn, fe gafodd y profiad effaith ar ei iechyd meddwl hefyd.

"O'n i wedi colli 15 o ddefaid dros y cyfnod.

"O'n i wedi bod yn dyst i'r ddau gi yn ymosod ar y defaid.

"Amser dawelodd pethau, dyna pryd bwrodd e fi a ges i rai misoedd tywyll ar ol y cyfnod 'na."

Cadwch eich cŵn ar dennyn yw'r gorchymyn syml y Pasg hwn.

A'r gwahoddiad yn gynnes.

Mwynhewch gefn gwlad ond gwnewch hynny'n gyfrifol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.