Heddlu'r De'n ymchwilio wedi ymosodiad 'difrifol' yn Abertawe
26/03/2024
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio yn dilyn ymosodiad “difrifol” yn Abertawe dros y penwythnos.
Fe gafodd dyn lleol 37 oed ei arestio wedi'r digwyddiad yn ymyl parc ar Ffordd Ty-Draw ym Monymaen rhwng oddeutu 20.00 a 20.30 nos Sadwrn.
Mae e yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Mae dyn 34 oed yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol i’w ben, meddai Heddlu De Cymru.
Mae’r llu yn apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal nos Sadwrn, i gysylltu â nhw gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2400096315.
Llun: Google Maps