
Disgyblion Ysgol Llanhari yn ddiogel wedi damwain bws yn Yr Almaen
Mae Ysgol Gyfun Llanhari yn sir Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi bod eu disgyblion yn ddiogel wedi damwain bws tra roedd y criw ar eu ffordd i drip sgio yn Awstria.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ger tref Landau in der Pfalz yn ne’r Almaen. Roedd y criw ar drip sgio am wythnos, ac ar eu ffordd i Awstria.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, mae neges gan yr ysgol wedi diolch i'r gwasanaethau brys yn yr Almaen.
"Pawb yn iawn - diolch enfawr i wasanaethau brys yr Almaen. Mae gwytnwch ein disgyblion yn amlwg heddiw. #teulullanhari."
Cadarnhaodd yr ysgol mewn datganiad ar y cyd â chwmni bws Davey Travel o Benybont ar Ogwr wrth Newyddion S4C bod digywddiad rhwng eu bws a lori yn ystod oriau mân y bore.
"Mae'r holl deithwyr yn ddiogel ac wedi cael eu gweld gan y gwasanaethau meddygol. Chafodd neb ei anafu," meddai'r datganiad.
Ychwanegodd y datganiad fod pawb yn cael gofal gan wasanaethau cymorth yn lleol, a bod y criw yn aros i gael eu cludo i Awstria er mwyn parhau â'u trip sgio.
"Mae pawb yn ddiogel ac rydym eisiau diolch i'r asiantaethau lleol am eu hymateb cyflym, " meddai'r llefarydd.

Cafodd y grŵp o ddisgyblion ac athrawon “eu cefnogi” gan yr awdurdodau lleol yn yr Almaen wedi’r gwrthdrawiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf.
Fe wnaeth cwmni bws Davey Travel drefnu i ddau fws arall deithio i’r ardal er mwyn cludo’r grŵp i’w lleoliad terfynol yn Awstria, ychwanegodd y cyngor.
“Mae pennaeth Ysgol Llanhari mewn cysylltiad cyson â’r staff sy’n mynd gyda’r disgyblion ar y daith ac wedi rhoi sawl diweddariad i rieni a gofalwyr drwy gydol y bore.
“Mae’r staff wedi canmol y gwasanaethau brys am eu help gwych, a hoffai’r ysgol a’r cyngor ddiolch iddynt am bopeth maen nhw wedi ei wneud," meddai'r llefarydd.
Prif lun: www.swr.de