Newyddion S4C

Dau ddyn o dde Cymru yn gwadu cludo mewnfudwyr anghyfreithlon ar draws Ewrop

25/03/2024
Llys y Goron Caerdydd (CC by SA)

Mae Dilshad Shamo, 41, ac Ali Khdir, 42, wedi eu cyhuddo o gynorthwyo mewnfudo anghyfreithlon wedi ymchwiliad gan asiantaeth droseddau'r NCA. 

Ymddangosodd y ddau yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun. 

Mae disgwyl iddyn nhw ymddangos nesaf yn y llys ar 11 Ebrill 

Cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa.

Maen nhw'n wynebu honiadau iddyn nhw gynnal ymgyrch o'r Deyrnas Unedig, gan drefnu i gludo mudwyr ar longau, lorïau a cheir o Irac, Iran a Syria drwy gyfandir Ewrop i'r Eidal, Romania, Bwlgaria, Slofenia, Yr Almaen a Ffrainc.

Mae'r asiantaeth droseddau yn credu fod nifer fawr o'r mudwyr wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig.  

Cafodd Dilshad Shamo ac Ali Khdir eu harestio yn Ebrill 2023.  

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.