Newyddion S4C

China tu ôl i'r ymosodiadau seiber medd Prydain

25/03/2024
Oliver Dowden

Bydd Llywodraeth Prydain yn gwneud 'beth bynnag sydd ei angen' i amddiffyn Prydeinwyr rhag ymosodiadau seiber, meddai un o’i gweinidogion.

Mae disgwyl i’r Dirprwy Brif Weinidog Oliver Dowden ddweud wrth y Senedd yn San Steffan ddydd Llun mai China sydd y tu ôl i ymosodiadau seiber a ddatgelodd manylion personol 40 miliwn o bleidleiswyr.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiadau ar y Comisiwn Etholiadol ym mis Awst 2021, ond dim ond y llynedd y cawsant eu datgelu.

Y gred yw bod sawl Aelod Seneddol ac arglwydd sydd wedi bod yn feirniadol o China hefyd wedi cael eu targedu.

Roedd y manylion ar y cofrestrau yn cynnwys enw a chyfeiriad unrhyw un yn y DU a gofrestrodd i bleidleisio rhwng 2014 a 2022, yn ogystal ag enwau’r rhai sydd wedi’u cofrestru fel pleidleiswyr tramor.

Dywedodd y Gweinidog Niwclear Andrew Bowie wrth radio LBC: “Y ffaith yw bod y Llywodraeth wedi buddsoddi llawer o amser, arian ac ymdrech i sicrhau bod ein galluoedd seiber-ddiogelwch yn y lle y mae angen iddynt fod.

"Rydym wedi cynyddu pwerau ein cymuned cudd-wybodaeth a diogelwch i allu delio â'r bygythiadau hyn.

“A byddwn yn gwneud beth bynnag sydd ei angen i sicrhau bod pobol Prydain, ein democratiaeth, ein rhyddid barn a’n ffordd o fyw yn cael eu hamddiffyn.”

Ond yn sgil adroddiadau bod EVE Energy China ar fin buddsoddi mewn ffatri batri yng Nghanolbarth Lloegr, dywedodd Mr Bowie fod y Llywodraeth yn cymryd agwedd bragmatig at ddelio â China.

“Mae’n rhaid i ni gael perthynas bragmatig gyda China. 

“Ac mae hynny’n golygu edrych ar bob un o’r buddsoddiadau hyn yn eu cyfanrwydd, fesul achos, gan sicrhau nad yw ein diogelwch a’n rhyddid yn cael eu tanseilio gan unrhyw un o’r buddsoddiadau sydd ar y gweill.”

Llun: Simon Dawson / No10 Downing Street

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.