Seren realiti David Potts yn cael ei goroni'n enillydd Celebrity Big Brother
Mae’r seren realiti David Potts wedi’i goroni'n enillydd ar y gyfres deledu Celebrity Big Brother wedi i’r rhaglen ddychwelyd i’r sgrin fach am y tro cyntaf ers chwe blynedd.
Fe enillodd Potts, 30 oed, y gyfres nos Wener gan guro pedwar wyneb adnabyddus eraill i’r goron – gan gynnwys cyn-feirniad X Factor Louis Walsh, y cyflwynydd Fern Britton, y dawnsiwr Strictly Nikita Kuzmin ac actor Cornonation Street Colson Smith.
Fe ddaeth Potts yn ffigwr adnabyddus wedi iddo serennu yng nghyfres realiti ITV2, Ibiza Weekender.
Eleni, mae Celebrity Big Brother wedi denu oddeutu 2.8 miliwn o wylwyr ar gyfer bob pennod.
Roedd y gyfres wedi dychwelyd i’r sgrin fach ar raglen ITV, gyda 12 o gystadleuwyr tair wythnos yn ôl.
Daeth y gyfres i ben ar Channel 5 yn 2018, ar ôl iddo gael ei ddarlledu ar Channel 4 yn wreiddiol rhwng 2001 a 2010.