Newyddion S4C

Y golau gwyrdd i rwydwaith cyfryngau cymdeithasol Donald Trump

22/03/2024
Donald Trump

Mae rhwydwaith cyfryngau cymdeithasol Donald Trump, Truth Social, wedi cael y golau gwyrdd i fynd yn gyhoeddus, gan o bosib ennill $3 biliwn i gyn-arlywydd America. 

Mae’r datblygiad yn golygu y bydd Trump Media & Technology Group, y cwmni y tu ôl i Truth Social, yn dechrau masnachu ar y farchnad stoc Nasdaq yn fuan.

Mewn pleidlais a gafodd ei chynnal ddydd Gwener, fe wnaeth y cwmni Digital World Acquisition Corp gymeradwyo cytuneb i uno â busnes cyfryngau Mr Trump.

Mae’r cytundeb newydd yn golygu bydd gan Mr Trump gyfran mwyafrifol gwerth $3 biliwn yn y cwmni.

Cafodd Truth Social ei lansio ym mis Chwefror 2022, blwyddyn ar ôl i Mr Trump gael ei wahardd o sawl platfform cyfryngau cymdeithasol yn dilyn y cyrch ar adeilad y Capitol yn Washington.

Ers hynny, mae Mr Trump wedi cael dychwelyd i’r platfformau, ond mae wedi bwrw ymlaen â Truth Social i ledaenu ei negeseuon.

Fe fydd Mr Trump yn mynd benben â Joe Biden ar gyfer etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau sy'n cael ei gynnal ar 5 Tachwedd 2024.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.