Newyddion S4C

Carchar am 28 mlynedd i ddyn am lofruddiaeth yn Llanelli

22/03/2024
James Smith

Mae dyn a gafwyd yn euog o lofruddio dyn arall drwy ei drywanu â chyllell wedi ei garcharu am oes.

Roedd James Allan Smith, 36 oed, wedi gwadu llofruddio Ashley Sarsero, 26, yn Llanelli ym mis Medi 2023.

Yn ogystal, fe gafodd Steven George Morgan, 36 oed, o Lanelli, hefyd ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner am gynorthwyo Smith i ddianc o leoliad yr ymosodiad.

Fe glywodd Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, y bydd Smith yn treulio lleiafswm o 28 mlynedd yn y carchar cyn bod yn gymwys i gael ei ryddhau.

Cafodd Morgan ei arestio yn y fan a'r lle ar noson yr ymosodiad, ac fe aeth Smith i orsaf heddlu yn wirfoddol y diwrnod canlynol i gyfaddef ei ran.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.