Newyddion S4C

Yr Unol Daleithiau yn galw am gadoediad yn Gaza wrth i Antony Blinken ymweld ag Israel

22/03/2024
Antony Blinken

Bydd Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Antony Blinken, yn cwrdd â Phrif Weinidog Israel ddydd Gwener wrth i’r UDA gefnogi galwadau’r Cenhedloedd Unedig am gadoediad ar unwaith yn Gaza. 

Mae’r Unol Daleithiau wedi cyhoeddi drafft sy’n galw ar y cyd am gadoediad yn Gaza, yn ogystal â chytundeb gyda Hamas i ryddhau gwystlon – ac fe ddaw ymweliad Blinken i Israel fel rhan o’r ymdrechion hynny.  

Mi fydd Blinken yn cwrdd â Benjamin Netanyahu yn ninas Tel Aviv gan geisio sicrhau ei fod yn “gwrando” i’w feirniadaeth ynglŷn ag ymgyrch milwrol Israel yn Gaza. 

Ond er bod y “bwlch” rhyngddyn nhw’n “lleihau,” nid yw’n disgwyl cytundeb yn fuan, meddai. 

Dyma yw’r tro cyntaf i’r Unol Daleithiau gefnogi galwadau ar gyfer cadoediad ar unwaith yn yr ardal, ac maen nhw eisoes wedi atal ymdrechion gan y Cenhedloedd Unedig yn galw am gadoediad o’r fath. 

Mae disgwyl i Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig pleidleisio ar ddrafft yr Unol Daleithiau ar gyfer cytundeb yn ddiweddarach ddydd Iau. 

Yn hytrach ‘na galw’n uniongyrchol am gadoediad, mae’r drafft yn mynegi cefnogaeth am ymdrechion Yr Aifft a’r Unol Daleithiau gyda Qatar wrth gyflwyno cytundeb i ryddhau gwystlon Hamas. 

Ond mae’r cytundeb hwnnw’n crybwyll y “pwysigrwydd” o gadoediad parhaol, ar unwaith. 

Wrth siarad mewn cynhadledd i’r wasg yn Cairo ddydd Mercher, dywedodd Blinken fod “gwaith caled dal i’w wneud,” ond ei fod yn "teimlo’n obeithiol". 

Dywedodd hefyd y byddai ymgyrch milwrol gan Israel yn ninas Rafah yn Gaza yn “gamgymeriad.” 

Ac roedd y gwleidydd wedi galw ar Israel i “wneud mwy” er mwyn galluogi mwy o gymorth dyngarol i ddinasyddion Gaza. 

Llun: Henry Nicholls/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.