Newyddion S4C

Cynnydd o 20% yn nifer yr achosion o TB yng Nghymru mewn blwyddyn

22/03/2024
TB / NIAD C.C.

Mae nifer yr achosion newydd o TB yng Nghymru wedi cynyddu bron i 20% mewn blwyddyn, yn ôl adroddiad newydd.

Mae’r adroddiad Twbercwlosis yng Nghymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi awgrymu bod nifer yr achosion newydd o TB yn y wlad wedi cynyddu o 71 yn 2022 i 84 yn 2023 - cynnydd o 18% o’r flwyddyn flaenorol.

Mae’r adroddiad hefyd wedi awgrymu bod yr haint yn cael ei nodi'n amlach yn y rhai sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig.

Er bod cynnydd yn nifer yr achosion, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud bod Cymru yn parhau i fod yn wlad o achosion isel ar gyfer TB. 

Dros y degawd diwethaf, mae Cymru wedi gweld gostyngiad yn nifer yr achosion o TB ers uchafbwynt o 3.7 achos fesul 100,000 o'r boblogaeth yn 2014.  

Yn ôl yr adroddiad, mae'r wlad ar y cyfan yn parhau o fewn diffiniad Sefydliad Iechyd y Byd o wlad 'achosion isel' (llai na 10 achos fesul 100,000 o'r boblogaeth y flwyddyn) ond mae amrywiad daearyddol sylweddol, gyda mwy o achosion yn ne-ddwyrain Cymru.

Dywedodd Josie Smith, uwch-epidemiolegydd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, fod canfyddiadau’r adroddiad yn “bryder”.

“Er mai'r duedd tymor hir yng Nghymru yw cyfraddau sy'n gostwng, ni ddylem fod yn hunanfodlon - dylai tystiolaeth o arafu o ran gostwng cyfraddau TB fod yn bryder.

“Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth agos â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i weithio tuag at ddileu TB.”

Mae'r Cenhedloedd Unedig yn anelu i ddod â'r epidemig TB byd-eang i ben erbyn 2030.

Beth yw TB?

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae TB yn haint sydd fel arfer yn effeithio ar yr ysgyfaint.

Mae symptomau'n cynnwys peswch parhaus gyda mwcws neu waed ynddo, teimlo'n flinedig, tymheredd uchel neu chwysu yn ystod y nos, colli awydd bwyd, colli pwysau a theimlo'n sâl yn gyffredinol.

Mae unigolion o wledydd â nifer uchel o TB, y rhai sydd â ffactorau risg cymdeithasol fel y defnydd o gyffuriau neu ddigartrefedd, neu'r rhai â chyflyrau fel diabetes neu sy'n ddifrifol imiwnoataliedig yn wynebu risg uwch o haint. 

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae TB yn haint sy’n gallu cael ei drin gyda gwrthfiotigau, sydd fel arfer yn cael eu cymryd am gyfnod o bedwar i chwe mis. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.