Dyn 36 oed wedi marw wedi gwrthdrawiad rhwng dau gar
Mae dyn 36 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar ger pentref Llantrisant yn Sir Fynwy nos Fercher.
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod nhw eisiau siarad ag unrhyw un a oedd ar Ffordd Wysg, rhwng Ffordd Abernant a Brynbuga, rhwng 22.10 a 22.30.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Audi A3 llwyd a Land Rover Range Rover llwyd am tua 22.20.
Aeth swyddogion yno gyda phersonél o Wasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Cadarnhaodd parafeddygon fod gyrrwr yr Audi, dyn 36 oed, wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod ac maent yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu unrhyw un sydd â lluniau dashcam neu deledu cylch cyfyng o ardal y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw gan ddyfynnu'r cyfeirnod log 2400092968 gydag unrhyw fanylion.