Newyddion S4C

Pobl greadigol Gymraeg yn dod at ei gilydd i ddathlu cyhydnos y gwanwyn

ITV Cymru 21/03/2024

Pobl greadigol Gymraeg yn dod at ei gilydd i ddathlu cyhydnos y gwanwyn

Mae grŵp o bobl greadigol Gymraeg wedi dod ynghyd yng Nghaerdydd i ddathlu cyhydnos y gwanwyn.

Mae cyhydnos y gwanwyn, a syrthiodd ar yr 20fed o Fawrth eleni, yn nodi diwrnod cyntaf y gwanwyn byd natur, gyda’r gair cyhydnos yn cael ei gyfieithu’n uniongyrchol o’r Lladin fel ‘noson gyfartal’.

Ers diwrnod byrraf y flwyddyn ym mis Rhagfyr, mae'r dyddiau yn raddol wedi troi’n hirach a'r nosweithiau ychydig yn fyrrach sy’n golygu eu bod yn troi’n gyfartal o ran hyd.

Mae ‘Gorsedd’ yn gyfres o ddigwyddiadau sy’n cael ei chynnal yn unol â’r newid yn y tymhorau.  Maen nhw wedi eu cynllunio gan y cerddor Mari Mathias, o Dalgarreg.

Mae pob digwyddiad yn digwydd yn ystod y newidiadau tymhorol; Cyhydnos y Gwanwyn, Heuldro'r Haf, Cyhydnos yr Hydref a Heuldro'r Gaeaf.

Y nod yw gwahodd siaradwyr Cymraeg a hefyd dysgwyr i ddod at ei gilydd i dathlu diwylliant, llên gwerin, adrodd straeon ac iaith, meddai Mari Mathias.

Dywedodd Mari ei bod hi’n bwysig cadw llên gwerin ac adrodd straeon yn fyw mewn byd modern.

Fe wnaeth Mari ddechrau Gorsedd er mwyn “ymateb i'r tymhorau cyfnewidiol" a chaniatáu i gymuned o Gymry creadigol ymuno â hi yn y prosiect.

Dywedodd hi fod y “Gorsedd yn cynnwys cyfuniad diwylliannol a cherddorol o bobl greadigol Cymreig, yn cefnogi lleoliadau annibynnol lleol ac yn cynnig lleoliad agos-atoch ar gyfer amrywiaeth o weithiau artistig, gan arddangos y dalent anhygoel sy'n digwydd yng Nghaerdydd ar hyn o bryd".

Ar gyfer y digwyddiad yma roedd y noson yn casglu arian ar gyfer Trac Cymru, sefydliad datblygu gwerin Cymreig ac elusen gofrestredig sy'n hyrwyddo a datblygu traddodiadau cerddoriaeth a dawns Cymru. 

Dywedodd Mari ei bod hi wedi dewis Trac “er mwyn dathlu pethau gwerinol a’r iaith Gymraeg. Mae’n nhw’n helpu pobl ifanc i gysylltu gyda’r iaith Cymraeg a traddodiadau fel dawnsio, a twmpath felly mae Trac Cymru yn bwysig iawn dwi’n meddwl i bobl ifanc cysylttu gyda gwreiddiau nhw".

Image
Llun: Gorsedd
Llun: Gorsedd

Roedd digwyddiad cyhydnos y Gwanwyn wedi cymryd lle yn Paradise Garden, yng Nghaerdydd. 

Mae Cath Little yn ddysgwr Cymraeg o Llanrhymni yng Nghaerdydd ac yn storiwraig proffesiynol. Yn ystod y noson rhannodd hen straeon traddodiadol o Sir Forgannwg trwy siarad a chanu gyda’r gynulleidfa. 

“Mae’n siawns i ymarfer siarad gyda pobl arall. Mae’n bwysig i  basio’r straeon a thraddodiadau i lawr i gofio nhw ac i gadw nhw,” meddai.

Dysgwr arall oedd wedi perfformio oedd yr artist Joshua James Morgan, neu ‘Sketchy Welsh.’ 

“Hon yw fy nhro gyntaf yng Ngorsedd felly’n mae’n gyffrous i gysylltu gyda llawer o bobl," meddai.

"Mae’n bwysig, a dysgu’r iaith yw’r allwedd i agor llawer o bethau yn y diwylliant. Dyma’r enghraifft o hyn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.