‘Mannau gwan sylweddol’ mewn triniaeth a gofal strôc
Mae angen gwneud mwy i wella’r ymchwil o amgylch strôc yn ôl dioddefwyr.
Mae o gwmpas 7,400 o strociau yn digwydd yng Nghymru bob blwyddyn, gyda dros 70,000 o oroeswyr.
Daw’r alwad wrth i’r Gymdeithas Strôc a goroeswyr weithio ynghyd i gyhoeddi blaenoriaethau ar gyfer ymchwil y dyfodol.
Ymhlith y blaenoriaethau mae dod i ddeall a chynnig cefnogaeth emosiynol i ddioddefwyr.
Mae Garry Rees o Dredegar yn parhau i fyw gydag effeithiau ei strôc nôl ym mis Rhagfyr 2019.
Dywed fod hi’n “cymryd llawer iawn mwy o amser imi deipio neu decstio yn awr.”
“Does neb yn gweld yr holl feddwl mewnol a’r gwaith rwyf yn gorfod ei wneud.
“Maen nhw ond yn gweld y canlyniad ar y diwedd,” meddai.
Fe wnaeth y digwyddiad effeithio ar ei iechyd meddwl, ac fe’i cyflwynwyd i grwpiau cymorth y Gymdeithas Strôc.
Yn ôl ffigyrau Cyngor Ymchwil Feddygol y Deyrnas Unedig, mae £30m o arian ymchwil iechyd cyhoeddus ac elusennol yn cael ei wario ar strôc.
Mae’r Gymdeithas Strôc yn dadlau fod hyn yn gyfwerth â £25 am bob person sy’n goroesi strôc, o’i gymharu â £161 ar gyfer pob person sy’n byw â chanser.
‘Rhaid gweithredu’
Dywedodd Juliet Bouverie, Prif Weithredwr y Gymdeithas Strôc: “Er gwaethaf datblygiadau arloesol enfawr dros y 10 mlynedd diwethaf, gwyddom yn awr lle mae yna fannau gwan sylweddol o ran triniaeth a gofal.
“Gyda’r disgwyl y bydd nifer y bobl sy’n cael strociau’n cynyddu - y darogan yw y gallai nifer y bobl sy’n goroesi strôc sy’n 45 oed a hŷn gynyddu i 1.4 filiwn yn 2025 ac i 2.1 filiwn yn 2035, gallai nifer y goroeswyr strôc yng Nghymru gynyddu dros 50% yn ystod yr ugain mlynedd nesaf - mae’n rhaid inni weithredu yn awr a buddsoddi yn yr ymchwil fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau pobl yr effeithir arnynt gan strôc.”
Fe wnaeth 1,400 o bobl sydd wedi’u heffeithio gan strôc - ynghyd a gweithwyr proffesiynol yn y maes - gymryd rhan yn yr ymchwil.
Ymhlith y prif flaenoriaethau ar gyfer ymchwil mae ymyriadau i atal strôc, a deall a rhoi triniaeth i broblemau meddyliol ac emosiynol.