Newyddion S4C

Malcs a'i Farn: 'Tawel hyderus' cyn gêm fawr Cymru'n erbyn y Ffindir

21/03/2024
Malcolm Allen

Fe fydd hi'n noson dyngedfennol i  dîm pêl-droed Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau, wrth iddyn nhw herio'r Ffindir yn rownd gynderfynol gemau ail-gyfle Euro 2024.

Curo'r Ffindir, ac fe fydd Cymru yn wynebu naill ai Gwlad Pwyl neu Estonia yng Nghaerdydd nos Fawrth er mwyn cyrraedd Yr Almaen yn yr haf.

Malcolm Allen sy'n trafod y penderfyniadau anodd fydd yn rhaid i Rob Page eu gwneud wrth ddewis y tîm nos Iau ar gyfer ei golofn, Malcs a'i Farn.

"An-aml fydd hi pan fydd Cymru yn cwoliffeio yn hawdd i ffeinals yr Ewros neu Cwpan y Byd felly di hi ddim yn sioc mawr bo' ni'n cystadlu yn y gemau ail-gyfle eto i gyrraedd yr Almaen.

"Ar bapur, mae'r gêm yma yn erbyn Y Ffindir i weld yn hawdd, chwara gartref yn Stadiwm Caerdydd yn bownsio gyda'r Wal Goch i gyd tu ôl i'r tîm yn creu'r awyrgylch.

"Ma' nosweithiau fel hyn yn medru bod yn hanesyddol a bythgofiadwy.

'Presenoldeb anferth'

"Aaron Ramsey yn ôl yn y garfan, grêt - presenoldeb anferth, codi pawb o'i gwmpas, digon o gyfathrebu genna fo efo'i brofiada ond dim ar y cae tro hyn i'r capten. 

"Ben Davies fydd y capten, a ma rhaid i fi ddeud, y tîm dwi'n ddewis ydi Danny Ward yn y gôl, dipyn bach o amheuaeth 'di bod amdana fo oherwydd nath o ddim mynd allan ar fenthyg, ond yn sicr, dwi'm yn gweld Rob Page yn newid ei feddwl wan.

"Wedyn, fydd na bump yn y cefn, fydd Connor Roberts ar y dde, Chris Mepham, Joe Rodon, Ben Davies a Neco Williams ar y chwith sydd wedi cael dau fis campus i Nottingham Forest rhaid deud, a Neco Williams a Connor Roberts fydd y wing backs yn cynnig eu hunain lawr yr esgyll.

"Jordan James, tymor gwych i Birmingham, Ethan Ampadu yn gwneud ei 50fed cap i Gymru yn erbyn Y Ffindir nos  Iau, a mae o wedi tyfu mewn i'w sgidia a'i botensial y tymor yma yn y bencampwriaeth efo Leeds. 

"Harry Wilson a Brennan Johnson dwi'n dewis o'u blaena' nhw a neith nhw weithia fynd allan i'r esgyll a wedyn dod tu fewn i'w dynion hefyd.

"Kieffer Moore ydy'r ymosodwr yn fy marn i, penderfyniad anodd dwi'n siwr i Rob Page ond ma'n grêt cael y cur yn pen yna, Nathan Broadhead ar y fainc, wedi bod yn wych eto i Ipswich y tymor yma.

'Tawel hyderus'

"Dan James, anlwcus ella bod o ddim yn y tîm, wedi neud yn wych er bod o ddim yn y tîm cynta, ac yn ddylanwad mawr ac yn medru neud hynny oddi wrth y fainc. 

"David Brooks, wedi mynd i Southampton ar fenthyg, wedi cael y munudau ar y cae ond dim digon i ddod syth i fewn i gêm fel hyn felly ma'r newidiada gynnon ni os dydi petha ddim yn mynd o'n plaid ni. 

"Wedyn ma' gynno chi Rubin Colwill, dwi 'di bod yn hapus iawn efo'i ddatblygiad o y tymor yma, a'r ffordd mae o wedi disgwyl i'r geiniog na ddisgyn i wbod faint o dda 'dio, ma'n credu yn ei hun.

"Pedwar mis wedi mynd ers mis Tachwedd sef y gêm ddwytha, a 'dan ni'n trio peidio cyfri'r dyddia, ond neud y diwrnod gyfrif, a ti isio gafael yn bob moment a peidio dyfaru dim i'r chwaraewyr 'na ar y cae.

"Dwi'n ffyddiog, fydd na nerfau fydd na densiwn, fydd na gyffro fel arfer a bendant fydda ni gyd ar ochr ein sedd.

"Tawel hyderus, dwi'n deud Cymru yn curo hon o 3-1."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.