Newyddion S4C

Ysgol wledig yn ymgyrchu i ddenu disgyblion i sicrhau ei pharhad

Newyddion S4C 23/06/2021

Ysgol wledig yn ymgyrchu i ddenu disgyblion i sicrhau ei pharhad

Mae ysgol wledig yn Sir Conwy wedi dechrau ymgyrch i ddenu mwy o ddisgyblion i sicrhau ei pharhad.

Un ar ddeg o blant sydd yn Ysgol Llannefydd ger Dinbych, mae hynny'n golygu bod rhaid i’r ysgol geisio denu plant o ardal ehangach a thargedu trefi cyfagos lle mae llai o opsiynau o ran addysg Gymraeg.

Tra'n ffyddiog bod gweithredu yn mynd i sicrhau parhad yr ysgol, mae'r pennaeth yn credu bod angen i'r awdurdodau ystyried sut mae cadw ysgolion gwledig i fynd wrth gynllunio dyfodol cymunedau.

“Be 'da ni'n gobeithio gwneud wrth gwrs ydy sicrhau dyfodol yr ysgol drwy fod yn proactive er mwyn cael disgyblion i fewn cyn bod hi'n cyrraedd ryw bwynt lle ma'r Llywodraeth Cymru a'r sir yn edrych ar ddyfodol yr ysgol,” meddai Gari Evans.

“Ar ddiwedd y dydd y plant di dyfodol y gymuned yma yn Llannefydd ag os na fydd yna ysgolion gwledig i wasanaethu'r gymuned mae'r gymuned ehangach wedyn yn mynd i chwalu.

“Efo'r rhifau'n gostwng, ma'r ochr farchnata yn flaenllaw, rhywbeth mae rhaid i ni neud er mwyn denu mwy o ddisgyblion i'r ysgol.”

‘Cystal ag ysgol breifat’

Mae’r pennaeth o’r farn fod yr addysg yr un fath os nad yn well na’r hyn sy’n cael ei gynnig mewn ysgolion preifat.

“O ran ratio staff i ddisgyblion fedrwch chi'm cael llawer gwell os fyswch chi'n mynd i mewn i ysgol breifat.

“’Da ni'n bell o fod yn ysgol breifat, ond ma'r gweithgareddau, a'r profiadau, a'r cyfleoedd 'da ni'n rhoid i'r plant yn sicr yn wych ac yn well nag ysgolion llawer iawn mwy.

"Drwy ledu'r neges o be 'da ni'n gallu gynnig yma dwi'n sicr fydd 'na bobl o tu allan i'r ardal yn gallu dod i mewn a bod yn rhan o gymuned Llannefydd, achos ma'r gymuned yn croesawu pawb hefo breichiau agored, dwi'n siŵr byse nhw wrth i boddau."

Mewn ymateb dywedodd Cyngor Conwy bod y sir wedi "ymrwymo’n llwyr i ddyfodol ysgolion bach a gwledig".

Yn ôl Llywodraeth Cymru'n mae’r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn sicrhau bod y gymuned leol yn cael cyfle i ddweud eu dweud os oes newidiadau sylweddol i ysgolion.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.