Newyddion S4C

Pwy fydd yng nghabinet Vaughan Gething?

19/03/2024

Pwy fydd yng nghabinet Vaughan Gething?

Mae'r gêm wleidyddol yn gallu bod yn frwnt.

Felly mae'n rhaid cael tîm cryf o'ch cwmpas. Which one's right?

Mae disgwyl i Vaughan Gething gael ei gadarnhau yn Brif Weinidog yn ffurfiol ddydd Mercher.

Dewis ei gabinet fydd ei ddyletswydd cyntaf.

A hynny ar ôl i fwyafrif o aelodau Llafur yn y Senedd gefnogi'r ymgeisydd arall i fod yn arweinydd, Jeremy Miles.

I've already been talking to people within the group and within the government on all sides of the contest and recognising now that's over, we're all on the same team.

Gallwn ddisgwyl gweld rhai o gefnogwyr Mr Gething yn ôl yn y Cabinet.

Yn eu plith, Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid ac Eluned Morgan, er nad yw hi'n awyddus i barhau yn ei swydd fel y Gweinidog Iechyd.

Mae'n bosib y bydd Ken Skates yn dychwelyd i'r Llywodraeth ar ôl iddo helpu i redeg ymgyrch Mr Gething fel y gwnaeth Jane Bryant.

Efallai bydd 'na ddyrchafiad iddi hi.

Ond bydd rhaid adeiladu pontydd hefyd.

Mae'n anodd credu na fydd swydd fawr i Jeremy Miles a swyddi i rai o'i gefnogwyr amlycaf gan gynnwys y Gweinidog Amaeth, Lesley Griffiths a'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.

Mae'n rhaid gweud yn ystod yr ymgyrch yn ddiweddar doedd dim ffordd i Jeremy Miles a Vaughan Gething ddangos bod nhw'n mynd yn rhy bell o'r maniffesto naethon nhw gyhoeddi gyda Mark Drakeford.

Nawr fi'n meddwl byddwn ni'n gweld yn y cabinet ac ym mholisiau y Llywodraeth yma sut maen nhw'n mynd i ehangu y gwahaniaeth rhyngon nhw a'r Llywodraeth dwetha.

Cafodd Mr Gething gyfle i arbrofi tra'n ymweld â chwmni meddygol heddiw.

Cyn hir, bydd y gwaith go iawn yn dechrau.

Er hynny, mae Mr Gething y Prif Weinidog cyntaf sydd ddim yn rhugl yn y Gymraeg yn benderfynol o barhau i ddysgu'r iaith.

I definitely still want to carry on. Not just the Welsh lessons but trying to use more Welsh when I'm in the Chamber and indeed in some interviews.

Fe wariodd Mr Gething lot o arian i sicrhau ei fuddugoliaeth.

Ac roedd swm sylweddol £200,000 wedi'i roi gan berchennog cwmni oedd wedi'i gael yn euog o droseddau amgylcheddol.

Heddi wedi'r holl gwestiynau awgrymodd y bydd yn adolygu'r rheolau yn ymwneud ag ariannu etholiadau yn y dyfodol.

It's about what it means for future contests to review where we are now and what that might mean in the future. Mae Rhydaman mewn ardal y mae'r Blaid Lafur am dargedu yn yr etholiad nesaf. Beth oedd pobl yno eisiau gan eu Prif Weinidog nesaf?

Dodi'r speed limit nôl lan i 30. Dyna sydd bwysicaf i chi?

Fi yn y car nawr, a fi'n meddwl bydde fe'n well jwmpo ar y bws. Bydden i wedi pleidleisio am Jeremy Miles. Dw i'n aelod o'r Blaid Lafur. Neith e jobyn dda.

Dydyn ni heb ffarwelio a'i ragflaenydd eto. 'Co ni off!

Cadeiriodd Mark Drakeford ei gabinet olaf heddi. Fory fydd e'n ateb cwestiynau yn y Senedd am y tro olaf fel Prif Weinidog.

Yna, bydd yn ysgrifennu at y Brenin i gadarnhau bod e'n trosglwyddo'r awenau i arweinydd newydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.