Ymchwiliad i farwolaeth dyn ger clwb rygbi yng Nghaerdydd
![ITV Cymru](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/2021-03/ITV_Cyrmu-Wales.png)
Mae'r heddlu'n ymchwilio i farwolaeth dyn ger clwb rygbi yng Nghaerdydd.
Mae’r llwybr cerdded ger Clwb Rygbi Llandaf ar Rodfa’r Gorllewin wedi ei gau, yn sgil marwolaeth sydyn y dyn tua 3 fore Llun, 18 Mawrth.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu De Cymru: “Rydym yn ymchwilio i farwolaeth sydyn dyn a gafodd ei ddarganfod yn anymwybodol ger Clwb Rygbi Llandaf ar Rodfa’r Gorllewin, Caerdydd, tua 3 y bore yma.
“Mae'r safle wedi ei gau ac mae ein hymholiadau’n parhau.”
Mae’n debyg bod y llwybr, sy'n cysylltu Rhodfa’r Gorllewin ag Eglwys Gadeiriol Llandaf, wedi'i gau ers yn gynnar ddydd Llun.
Llun: Media Wales