Newyddion S4C

Dyledion o filiynau gan fusnes Gwynedd Shipping pan aeth i'r wal

18/03/2024
Gwynedd Shipping

Roedd gan gwmni cludiant Gwynedd Shipping Ltd £3.8 miliwn o ddyledion pan aeth i'r wal yn gynharach eleni.

Ac roedd gan ei chwaer gwmni, Gwynedd Transport Ltd, ddyled o bron i £3.4 miliwn i gredudwyr, yn ôl y cofnodion diweddaraf yn Nhŷ'r Cwmnïau.

Ar y cyd, roedd gan y ddau gwmi ddyledion hefyd o £1.5 miliwn i'r Swyddfa Dreth, a £1.7m i gwmni ariannol Close Invoice Finance Ltd.

Problemau ariannol

Cafodd cwmni cyfrifo Kroll eu penodi ym mis Medi 2023 i edrych ar broblemau ariannol y grŵp o gwmnïau a cheisio dod â'r sefyllfa o dan reolaeth.

Roedd y grŵp yn cynnwys cwmnïau Gwynedd Shipping Ltd, Gwynedd Transport Ltd, a Gwynedd Shipping Logistics Ltd.

Mewn 'Datganiad o Argymhellion y Gweinyddwyr' gafodd ei gyhoeddi'r wythnos ddiwethaf, mae swyddogion o Kroll yn manylu ar drafferthion y tri chwmni cyn cau pen y mwdwl ar y busnesau'n gynharach eleni.

Methiant oedd yr ymdrech i geisio dod o hyd i brynwyr newydd ar ddiwedd y llynedd, ac fe aeth y tri chwmni i ddwylo'r Gweinyddwyr ar 1 Chwefror gan arwain at ddiswyddiadau.

Cludiant

Roedd Gwynedd Shipping Ltd yn arbenigo ym maes cludo nwyddau i gwmnïau adeiladu a chludo dur dramor.

Yn ogystal â’r pencadlys ym Mhorthladd Caergybi, roedd gan y cwmni swyddfeydd hefyd ar Lannau Dyfrdwy, Casnewydd, Penbedw, Dulyn a Belfast ac roedd yn cyflogi 21 o weithwyr cyn dod i ben.

Ymysg y dyledion i gredudwyr Gwynedd Shipping Ltd sydd yn cael eu cofnodi yn nogfen ddiweddaraf y Gweinyddwyr, mae dyled o £937,118 i Stena Line, £118,000 i Irish Ferries, a £74,551 i TATA Steel.

Roedd Gwynedd Transport Ltd yn cyflogi 123 o weithwyr, a Gwynedd Shipping Logistics Ltd yn cyflogi 23 o weithwyr.

Mae rhestr credudwyr Gwynedd Transport Ltd o'u dyledion yn cynnwys £335,239 i gwmni yswiriant Bordengate, £53,132 i gwmni Anglesey Commercial Spares yn y Gaerwen, a £4,356 i adran gyllid Cyngor Môn yn Llangefni.

Ymysg dyledion Gwynedd Shipping Logistics Ltd mae dyled o £156,160 i Gyngor Gorllewin Sir Gaer a Chaer, £28,773 i Gyngor Sir Y Fflint, a £27,295 i TATA Steel.

Y gred yn ôl y Gweinyddwyr sydd bellach yn rheoli asedau'r tri chwmni yw nad oes digon o arian yn y coffrau i dalu'r holl ddyledion sylweddol yn llawn allan o beth oedd yn weddill o'r asedau.

Wrth drafod y datblygiadau ym mis Ionawr pan aeth y cwmnïau i'r wal, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru a'r aelod lleol yn y Senedd ym Mae Caerdydd, Rhun ap Iorwerth AS fod y newyddion  yn "ergyd arall" i swyddi ar Ynys Môn.

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.