Newyddion S4C

Dathlu dydd Sant Padrig yn yr Unol Daleithiau

17/03/2024
Afon Chicago

Mae pobl yn yr Unol Daleithiau wedi bod yn dathlu dydd Sant Padrig mewn dulliau traddodiadol.

Yn ninas Chicago fe drowyd afon Chicago yn wyrdd fel sy’n arferol ers 70 mlynedd. 

Eleni fe gynhaliwyd y ddefod ynghynt na’r arfer. 

Dywedodd swyddogion y ddinas fod hyn er mwyn i bobl “gael mwynhau'r yfed a'r partïon” ar y diwrnod ei hun.

Mae 31.5 miliwn sef 9.5% o boblogaeth America yn hawlio eu bod nhw’n ddisgynyddion o Iwerddon.

Dywedodd Arlywydd America Joe Biden fod Iwerddon yn “lais byd-eang dros ryddid”, cydraddoldeb a heddwch.

Ychwanegodd Mr Biden iddo ef mae bod yn Wyddelig wedi plethu â'i ffydd Gatholig.

Yn y Tŷ Gwyn roedd dŵr ffynnon yn yr ardd wedi lliwio’n wyrdd i nodi’r achlysur.

Llun: Chicago Tourism

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.