Newyddion S4C

Dau o bobl wedi eu lladd mewn achos o saethu yn Washington DC

17/03/2024
Heddlu Washington DC

Mae dau o bobl wedi eu lladd a phump arall wedi eu hanafu mewn achos o saethu yn Washington DC ddim ymhell o’r Tŷ Gwyn.

Dywedodd heddlu’r ddinas fod y saethu wedi digwydd yn oriau mân fore dydd Sul.

Ychwanegodd y llu eu bod nhw’n dal i chwilio am y dyn oedd yn gyfrifol.

Bu’n rhaid cludo pump o bobl i’r ysbyty i gael triniaeth am eu hanafiadau yn dilyn y digwyddiad ger canolfan Kennedy yn y ddinas.

Daw yn dilyn saethu’n farw tri o bobl yn Levittown yn nhalaith Pennsylvania ddydd Sadwrn.

Fe arestiwyd dyn 26 oed ar amheuaeth o lofruddio ei chwaer 13 oed, ei lysfam 52 oed a’i gynbartner 25 oed.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.