Newyddion S4C

Sector gweithgynhyrchu Cymru’n perfformio’n well na rhannau eraill y DU

18/03/2024
Gweithgynhyrchu

Mae sector gweithgynhyrchu Cymru yn perfformio’n well na rhannau eraill y DU, yn ôl adroddiad.

Dywedodd Make Uk sy’n cynrychioli’r diwydiant yn y DU fod dwy flynedd o “gynnydd” yn wynebu’r DU gyda rhagolygon y bydd y sector ar “dir gwastad” eleni.

Er hynny, mae ymchwil Make UK yn dangos fod y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru yn cryfhau yn raddol.

Yn ôl Make UK mae cwmnïau electroneg, awyrofod (aerospace), bwyd a diod yn fwy optimistaidd tra bod Cymru a de ddwyrain Lloegr yn gwneud yn “sylweddol well” na rhannau eraill y DU.

Ychwanegodd Make UK fod tystiolaeth yn dangos fod ceisio gwneud yr economi yn fwy cyfartal ym mhob rhanbarth o'r DU yn “methu mynd i’r afael” ag anghydbwysedd economaidd.

Dywedodd yr Uwch Economegydd gyda Make UK Fhaheen Khan: “Tra bod hyder gweithgynhyrchwyr yn wydn, mae rhagolygon cyffredinol y sector yn wan ar gyfer y dyfodol.

"Tra bod ffactorau allanol yn ffactor, mae gan economi'r DU broblem sylfaenol o dwf."

Mae'n dweud bydd rhaid i'r llywodraeth nesaf ddelio gyda hyn "fel mater o frys cenedlaethol".

Llun: The Manufacturer/Aston Martin

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.