Grant Shapps wedi gohirio taith i Wcráin oherwydd 'bygythiad diogelwch'
Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn Grant Shapps wedi gohirio ymweliad â Wcráin oherwydd “rhesymau diogelwch”.
Bu’n rhaid i Mr Shapps dynnu nôl o’i ymweliad i Odesa wythnos ddiwethaf ar ôl i’r weinyddiaeth amddiffyn dderbyn adroddiadau fod Rwsia yn ymwybodol o’i gynlluniau.
Roedd Mr Shapps i fod i ymweld â’r ddinas diwrnod ar ôl i daflegryn daro’r ddinas tra bod arlywydd Wcráin a phrif weinidog Groeg yno.
Cafodd pump o bobl eu lladd yn yr ymosodiad.
Roedd Mr Shapps wedi bod yn teithio ar drên o Wlad Pwyl i Wcráin gyda’r bwriad o gyfarfod ag Arlywydd Volodymyr Zelensky.
Ond ar ôl iddo gyrraedd Kyiv ar 7 Mawrth cafodd ei daith ymlaen i Odesa ei ganslo’n ddisymwth yn dilyn gofidion am ei ddiogelwch.
Yn ôl gohebydd y Sunday Times oedd yn teithio gyda Mr Shapps, fe gafodd y daith ei ohirio yn dilyn diweddariad cudd-wybodaeth wnaeth ddatgelu fod y Kremlin yn ymwybodol o gynlluniau Mr Shapps.