Mark Drakeford yn adlewyrchu ar ei gyfnod fel prif weinidog
Mark Drakeford yn adlewyrchu ar ei gyfnod fel prif weinidog
Wel, wrth gwrs, dw i yn cymryd cyfrifoldeb am bopeth oeddwn i'n gyfrifol amdano yn ystod y pandemic ond o flaen yr ymchwiliad oedd e'n bwysig i fi i beidio dod at gasgliadau.
Ar ddiwedd y dydd, gwaith yr ymchwiliad yw e i feirniadu beth oedd wedi digwydd yng Nghymru a dros y Deyrnas Unedig i gyd.
Ond 'dyn nhw ddim yn fodlon nad y'ch chi wedi cyfaddef gwneud pethau yn anghywir?
Wel, yn fy marn i y cwestiwn yw os oedd y penderfyniadau yma yng Nghymru yn rhesymol a dyna beth oeddwn i'n trial ei roi y tystiolaeth i'r ymchwiliad iddyn nhw dod at y casgliadau.
Ar ddechrau eich cyfnod chi fel Prif Weinidog wnaethoch chi son bod dyddiau mwya radical a llwyddiannus Cymru i ddod.
Ry'n ni'n dal i aros.
Wel, be dw i wedi trial ei wneud o'r dechrau i'r diwedd yw i wneud y penderfyniadau radical.
Penderfyniadau sy'n addas i Gymru yn y dyfodol.
Penderfyniad fwya oedd 'da fi i wneud pan oeddwn i'n dod i fewn i'r swydd oedd y penderfyniad am yr M4 o gwmpas Casnewydd.
Dw i'n siwr y penderfyniadau haws i wneud oedd i roi caniatâd i hwnna fynd ymlaen. Oeddwn i ddim.
Yn yr wythnos olaf, yr wythnos hon ni'n trafod pethau fel mae diwygio'r flwyddyn yn yr ysgol.
Diwygio'r treth cyngor. Deddfu i fod yn glir dydyn ni ddim yn fodlon i tynnu elw preifat mas o'r gofal i blant mewn gofal.
Fi'n siwr fydd pob un ohonyn nhw - y penderfyniadau 'na mae pobl yn mynd i fod yn erbyn nhw ond ni wedi trial cadw at y ffordd uchelgeisiol a radical at y dyfodol.
A'r amgylchedd sydd wrth wraidd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sydd ar hyn o bryd yn achosi stŵr mawr mewn amaethyddiaeth.
Mae 'na ddoctoriaid ar streic. Mae cyllidebau, y'ch chi 'di son, yn dynn.
Mae ysgolion Cymru 'dyn nhw ddim yn perfformio cystal a byddech chi wedi hoffi ac wrth gwrs, rhestrau aros yn y Gwasanaeth Iechyd.
Y'ch chi'n pasio llond cert o broblemau ymlaen at bwy bynnag fydd Prif Weinidog nesaf Cymru.
Wel, wrth gwrs, mae e'n heriol i fod yn Brif Weinidog. Mae e'n mynd i fod yn heriol i bwy bynnag sy'n mynd i ddod ar ôl fi.
Pa bynnag maes - amaethyddiaeth a pob maes pan chi'n gofyn i bobl i wneud pethau mewn ffordd sy'n newydd iddyn nhw ond pwysig iddyn nhw wneud cyfraniadau at y problemau ni'n wynebu mae hwnna'n heriol.
Bydd e'n heriol i bwy bynnag sy'n mynd i ddod ar ôl fi.
Chi'n teimlo'n euog am hynny? Euog? Na, na.
Dw i ddim yn teimlo'n euog o gwbl achos mae newid yn angenrheidiol.
Does dim dewis 'da ni. Does dim dewis 'da ni yn cefn gwlad i wneud newidiadau i gael y cyfraniad ni ishe ei weld o'r ffermwyr i gael gwared ar yr effaith o'r newid yn yr hinsawdd arnom ni yma yng Nghymru ac i dalu nhw am y cyfraniad maen nhw'n wneud.
Mr Drakeford, dymuniadau gorau a diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr.