Newyddion S4C

Pwy yw Vaughan Gething?

Gething

Pwy yw'r dyn sydd wedi dod yn arweinydd newydd ar y blaid Lafur yng Nghymru, ac yn olynu Mark Drakeford fel Prif Weinidog Cymru?

Ganed Mr Gething yn Zambia yn 1974, lle cyfarfu ei dad, oedd yn wreiddiol o Aberogwr ym Morgannwg, â'i fam, oedd yn ffermio ieir yn y wlad.

Mae wedi siarad yn agored am ei brofiadau o ragfarn yn ei orffenol ac wedi dweud yn ystod ei ymgyrch na ddylai neb yng Nghymru deimlo felly.

Image
Vaughan Gething

Pan oedd yn ddwy oed symudodd ei deulu i'r Fenni yn Sir Fynwy, lle'r oedd ei dad i fod i ddechrau swydd newydd, ond tynnwyd y cynnig yn ôl pan gyrhaeddodd yr ardal gyda theulu du.

Wedi i'w dad golli ei swydd yn y Fenni, symudodd y teulu i Dorset yn Lloegr, ac yn ddiweddarach fe aeth Mr Gething ymlaen i astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae Mr Gething wedi dangos diddordeb mewn gwleidyddiaeth ers yn gymharol ifanc, ar ôl ymuno â’r Blaid Lafur yn 17 oed er mwyn helpu ymgyrchu yn etholiadau 1992.

Image
Vaughan Geting

Safodd yn aflwyddiannus am sedd Canolbarth a Gorllewin Cymru yn etholiadau cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol yn 1999, cyn dod yn gynghorydd dros ardal Butetown, Caerdydd yn 2004.

Fe ddaeth yn Aelod o’r Senedd (AS) yn 2011 ac fe ddaeth yn aelod o'r cabinet ers 2016. Daeth i amlygrwydd fel gweinidog iechyd trwy gydol pandemig y coronafeirws, swydd a ddaliodd rhwng 2016 a 2021.

Dyma oedd yr ail dro i Mr Gething geisio am y rôl fel arweinydd Llafur, gan golli'r ras i Mark Drakeford yn 2018.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.