Awyren a blymiodd i'r ddaear yn y canolbarth 'heb drwydded hedfan ddilys'
Nid oedd gan awyren fechan a blymiodd i'r ddaear yn y canolbarth y llynedd drwydded ddilys i hedfan ar y pryd, yn ôl adroddiad i'r digwyddiad.
Fe laniodd yr awyren ar dir fferm yn fuan ar ôl gadael maes awyr y Trallwng ychydig cyn 19:00 ar 13 Mehefin.
Fe ddioddefodd y peilot a theithiwr yn yr awyren anafiadau difrifol yn y digwyddiad.
Dywed yr adroddiad gan y Gangen Ymchwiliadau Damweiniau Awyr (AAIB) fod y ddamwain wedi digwydd yn fuan ar ôl i'r awyren esgyn o faes awyr preifat, pan oedd y tir yn gadarn a'r tywydd yn sych:
"Roedd cofnodion tywydd yn yr ardal yn dangos tymheredd ar yr adeg honno o tua 24°C gyda phwynt gwlith o 8°C...
"Dywedodd y peilot fod gwiriadau allanol a phŵer yn foddhaol cyn y daith."
'Anafiadau difrifol'
Ond yn fuan ar ôl gadael fe gollodd yr injan bŵer ac fe darodd yr awyren y ddaear.
"Dywedodd y gwasanaethau brys a oedd yn bresennol fod yr awyren wedi dod i orffwys ar lwybr fferm.
"Fe wnaeth y peilot a'r teithiwr, a oedd yn gwisgo harneisiau llawn, ddioddef anafiadau difrifol.
"Ni ddarparodd y peilot unrhyw wybodaeth bellach am achos posibl pam fod yr injan wedi colli pwer. "
Nododd yr AAIB nad oedd Trwydded Hedfan yr awyren yn ddilys ar adeg y damwain gan ei fod wedi dod i ben ym mis Mai 2022.