Newyddion S4C

Carcharu dyn o Gasnewydd am dreisio a cham-drin merched a menywod dros gyfnod o 20 mlynedd

15/03/2024
Nicholas Lloyd

Mae dyn o Gasnewydd wedi’i garcharu wedi iddo dreisio a cham-drin merched a menywod yn rhywiol am gyfnod o dros 20 mlynedd.

Fe gafodd llys Nicholas Lloyd, 52 o ardal Dyffryn, yn euog o 20 trosedd a gyflawnwyd rhwng 1 Ionawr 1986 a 31 Ionawr 2006 – gan gynnwys treisio, treisio plentyn dan 13 oed, gweithgaredd rhywiol gyda phlentyn ac ymosodiad rhywiol ar blentyn dan 13 oed.

Mi fydd Lloyd yn cael ei garcharu am hyd at 28 mlynedd, ac fe fydd yn cael ei enwi ar gofrestr troseddwyr rhyw am gyfnod o oes.

Wrth siarad ar ôl ei ddedfryd yn Llys y Goron Abertawe, ar 8 Mawrth, dywedodd y Ditectif Ringyll, Carrie Streeter: “Mae Lloyd yn ddyn peryglus, ac mae ei ymddygiad erchyll wedi achosi dioddefaint i nifer o fenywod, ac mae hynny wedi’i waethygu ymhellach gan y trawma o fynd trwy broses y llys.

“Ar bob cyfrif, roedd Lloyd yn gwadu unrhyw gyfrifoldeb.

“Nid yw wedi dangos unrhyw empathi nac edifeirwch yn ystod y broses. 

“Rwy’n cymeradwyo dewrder y rheiny sydd wedi dioddef ac yn gobeithio y byddai’r ddedfryd hon, o’r diwedd, yn caniatáu iddynt symud ymlaen â’u bywydau.”

Roedd y Ditectif Rhingyll Streeter hefyd eisiau rhoi sicrwydd i unrhyw un sydd wedi dioddef camdriniaeth rhyw fod cymorth ar gael iddyn nhw.

“Gallwch gysylltu gyda’r heddlu gan ffonio 101, neu fe allwch gysylltu gyda Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111,” meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.