Newyddion S4C

Rhybudd i ffermwyr wedi lladrad dyfeisiadau GPS o sawl tractor yn ardal Wrecsam

15/03/2024
Tractor

Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio wedi i nifer o ddyfeisiadau GPS gwerthfawr gael eu dwyn o sawl tractor yn ardal Wrecsam yn ddiweddar.

Fe dderbyniodd swyddogion adroddiadau am y lladrad rhwng hanner nos ar ddydd Mawrth, 12 Mawrth a 03.30 ar ddydd Mercher, 13 Mawrth.

Roedd rhywun wedi torri i mewn i bum tractor ar fferm yn ardal Sontley, ger Erddig.

Cafodd bob un o ddyfeisiadau GPS yn tractorau eu dwyn.

Dywedodd PC Chris James o’r Tîm Troseddau Cefn Gwlad: “Gall yr offer hwn fod yn gostus ac mae’n ffurfio rhan hanfodol o waith y ffermwr, sydd wedi arwain at amharu’n aruthrol ar ei waith o ddydd i ddydd.

“Rydyn ni’n credu bod y person sy’n gyfrifol am gymryd y cyfarpar hwn yn gwybod am beth roedden nhw’n chwilio, felly rydw i’n annog ffermwyr i symud offer tebyg pryd bynnag y bo modd a chadw peiriannau allan o’r golwg pan nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio.

“Rwy’n apelio ar unrhyw un a sylwodd ar unrhyw beth amheus yn yr ardal rhwng yr amseroedd dan sylw, ac apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo gyda’n hymchwiliad i gysylltu cyn gynted â phosibl.”

Llun: Pixabay

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.